Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  

Llwybrau beicio mynydd

Active Woods

Agorwyd y pump o ganolfannau beicio mynydd o safon fyd-eang sydd gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru ar 12 Mawrth, 2003.

Ers hynny, tyfodd eu henw da, gan drawsffurfio Cymru yn fecca ar gyfer beicwyr mynydd brwd o bell ac agos, sy’n dod â miliynau o bunnoedd i economi Cymru bob blwyddyn.

Mae ein llwybrau yn cynnwys rhai a adeiladwyd yn bwrpasol, traciau sengl cyfeirbwyntiol, llwybrau ysgafn i deuluoedd, a llwybrau gafael yn dynn i lawr y gelltydd – nid ar gyfer y gwangalon!

Mae pob llwybr ychydig yn wahanol i’w gilydd ac wedi ei gynllunio i adlewyrchu’r dirwedd a’r tiroedd o’i amgylch, gan gynnig profiad amrywiol a di-gymar trwy’r ucheldir mwyaf prydferth y dewch chi o hyd iddo yn unrhyw le.

(Llwythwch i lawr gopïau o’r canllawiau llwybr).

Yn gefn i’r llwybrau mae canolfannau ymwelwyr gyda chaffis yn cynnig prydau a byrbrydau cynnes, yn ogystal â chyfleusterau angenrheidiol fel golchfeydd beiciau.

Cynllun Gweithredu Strategol Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer Beicio Mynydd 2005-2007


FC Wales Mountain Biking Map

Mae’r map hwn yn seiliedig ar ddeunydd yr Arolwg Ordnans gyda chaniatâd yr Arolwg Ordnans ar ran rheolwr Swyddfa Llyfrfa Ei Mawrhydi © Hawlfraint y Goron. Mae atgynhyrchu heb ganiatâd yn troseddu yn erbyn Hawlfraint y Goron a gall arwain at erlid neu achos sifil. Comisiwn Coedwigaeth, Rhif Trwydded OS 100025498.

Coed Y Brenin

1 - Coed y Brenin

Wedi prosiect adnewyddu £1.6 miliwn mae Coed y Brenin yn cynnig canolfan ymwelwyr newydd, atyniadol yn llawn cyfarpar a phum llwybr wedi eu huwchraddio o safon fyd-eang. Dewch draw i weld y newidiadau drosoch eich hun!
Nant yr Arian

2 - Nant yr Arian

Mae’r ganolfan ymwelwyr newydd a adeiladwyd yn bwrpasol mewn safle gwych ar lan y llyn. Mae’r tri llwybr beicio un trac yn cynnig golygfeydd gogoneddus. Ymlaciwch ar ôl diwrnod o feicio caled drwy wylio y bwydo beunyddiol o’r Barcud Coch mewn awyrgylch unigryw.
Parc Coedwig Afan

3 - Parc Coedwig Afan

Canolfan ymwelwyr a adeiladwyd yn bwrpasol gyda chyfleusterau gwych. Llogi Beiciau. Un llwybr beicio i’r teulu a phedwar llwybr beicio: Llwybr Beicio Mynydd Penhydd, Y Wal, Lefel White, Nenlinell. Mae Pysgota a Gwersylla ar gael hefyd.
Glyncorrwg

4 - Glyncorrwg

Mae gan y canolfan yma gyfleusterau ardderchog a hefyd dau lwybr - y lefel 'Whites' anodd a'r sialens beicio mynydd 'Skyline' enwog, i'r rhai hynny sydd â digon o hyder. Yn ogystal gellir pysgota a gwersylla.
Coedwig Cwmcarn

5 - Coedwig Cwmcarn

Yn cynnig rhywbeth i’r teulu cyfan – dau lwybr beicio mynydd un trac â golygfeydd anhygoel, llyn pysgota a llwybrau cerdded. Ymlaciwch yn ein canolfan ymwelwyr neu mwynhewch farbeciw ar ôl bod yn beicio.
Garwant

6 - Garwnant

Ar ymylon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Garwnant yn addas ar gyfer beicwyr nofis a theuluoedd. Mae’r llwybr yn mynd trwy goed Ffynidwydd Douglas aeddfed ac mae gyferbyn â chronfa ddŵr. Mae gweithgareddau cyson i’r teulu yn ogystal â mannau chwarae antur yn y Ganolfan Ymwelwyr.
Abergorlech

7 - Brechfa

Mae copa llwyfandir uchelaidd Brechfa a dyffrynnoedd afon dwfn nid yn unig yn cynnig llwybr beicio i’r teulu (llwybr profi perffaith) ond hefyd llwybr technegol rhagorol Gorlech a gynlluniwyd gan Rowan Sorrell.

Glasfynydd

8 - Glasfynydd

Safle picnic bendigedig gyda llwybr cylch beicio 9 cilomedr o amgylch cronfa ddŵr Brynbuga, yn addas i deuluoedd â phlant dros 5 oed. Edmygwch olygfeydd o’r Mynydd Du wrth feicio ger y gronfa ddŵr a wal yr argae.
Marin

9- Marin

Wrth droed Eryri, mae’r llwybr beicio hwn yn rhedeg o goedwig i gefnennau agored, gan ganiatáu i chi fwynhau’r golygfeydd eithriadol wrth ddod i ben â’r llwybr technegol a llawn her hwn.

Rhagor o gyrchfannau

Rhagor o gyrchfannau

Mae gennym lawer mwy o gyrchfannau ar gael i chi. Defnyddiwch ein chwiliad Beicio i ddod o hyd i un wrth eich ymyl chi.


to DirectGov