Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  


Cerdded Llwybr Iechyd Dyffryn Tywi parhad
 

Mae gan staff yn Rhanbarth Coedwig Llanymddyfri hanes hir o ddarparu rhodfeydd coetir deniadol i’r gymuned leol. Yr unig esgus oedd eisiau arnom i edrych o’r newydd ar ein llwybrau cerdded i weld sut y gallent wneud cyfraniad i wella iechyd yn y boblogaeth leol, oedd yr ymwybyddiaeth ddiweddar o sut y gall cerdded fod yn iachusol.

Gyda’r gwariant minimol a llawer o waith caled gan staff y comisiwn yn y rhanbarth a gwirfoddolwyr, roeddwn yn medru nodi 7 llwybr cerdded oedd yn addas i’w marchnata fel llwybrau Iechyd. Gyda chymorth agos a hyrwyddiad ein ffrindiau yn y feddygfa leol

( yn enwedig Doctor Mark Boulter) a chymorth Viv Kersey ein Ymwelydd Iechyd, roeddwn yn medru lansio cynllun ‘Cerdded Llwybr Iechyd Dyffryn Tywi’ ym Mis Medi 2002.

Ers cychwyniad y cynllun, mae ein gwirfoddolwyr lleol a staff CC wedi rhedeg teithiau tywysiedig pob pythefnos gyda gweithgareddau gymnasiwm gwyrdd achlysurol.

Yn Rhagfyr 2003 fe wnaeth yr Asiantaeth Cefn Gwlad ein gwobrwyo gyda’i gwobr uchaf , y Wobr 3 Calon’ mewn cydnabyddiaeth o ddarpariaethau eang o weithgareddau cynnal iechyd ein cynllun.

 

Coedydd actif


to DirectGov