Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Prydain Fawr

Polisi preifatrwydd

Mae’r dudalen hon yn esbonio sut y mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn defnyddio unrhyw wybodaeth a dderbyniwn gennych trwy gyfrwng ein gwefan, a’n dulliau o ddiogelu eich preifatrwydd.

Deddf Diogelu Data


Yn ôl y Ddeddf Diogelu Data, mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn rheolwr data. O dan y Ddeddf, mae arnom ddyletswydd cyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth yr ydym yn ei chasglu gennych. Rydym yn diogelu eich data, ac yn gweithredu safonau diogelu llym er mwyn atal unrhyw fynediad heb awdurdod i’r data. Nid ydym yn rhoi eich data i unrhyw drydydd parti neu adran arall o’r llywodraeth oni bai ein bod yn cael eich caniatâd i wneud felly.

  • Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu?
  • Rydym yn casglu gwahanol fathau o wybodaeth gan ymwelwyr â’n gwefan:
    adborth;
  • galwadau i’n desg gymorth; 
  •  ceisiadau am wybodaeth; 
  •  ymatebion i ymgynghorion; 
  •  manylion cofrestru i rai rhannau o’r wefan; 
  •  a gwybodaeth am ddefnydd o’r wefan o ffeiliau cofnodi.

Adborth


Gallwch anfon eich adborth atom yn uniongyrchol trwy ddefnyddio‘r wefan neu drwy e-bost, y post neu ffôn. Os byddwch yn defnyddio ‘Feedback options’ ar y wefan, nid oes angen i chi roi unrhyw wybodaeth bersonol oni bai eich bod am ymateb gennym. Nid ydym yn rhoi eich gwybodaeth i neb y tu allan i’n sefydliad pan fyddwn yn ymdrin â‘ch ymholiad. Ni fyddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi at unrhyw ddiben arall heb gael eich caniatâd yn gyntaf.

Lle cedwir eich manylion yn ein system olrhain, caiff y rhain eu harchifo wedi i ni ymdrin â’ch ymholiad ac fe’u dilëir ar ôl 12 mis.

Galwadau i’n desg gymorth


Efallai y bydd y wybodaeth y rhowch i ni trwy gyfrwng galwad ffôn yn cael ei chofnodi ar ein cronfa ddata, er mwyn ein galluogi ni i ymateb i’ch cais a’i olrhain. Nid ydym yn rhoi dim o’ch gwybodaeth bersonol i neb y tu allan i’n sefydliad pan fyddwn yn ymdrin â’ch ymholiad oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud felly. Ni ddefnyddiwn unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi at unrhyw ddiben arall heb gael eich caniatâd.
Mae ein system yn archifo eich negeseuon ar ôl ymdrin â hwy, ac mae’n eu dileu ar ôl 12 mis.

Ceisiadau am Wybodaeth


Mae angen i ni gofnodi eich manylion cyswllt personol er mwyn i ni allu ymateb i’ch cais ac olrhain ei hynt. Os byddwch yn defnyddio’r swyddogaeth ‘Information Request’ ar y wefan, y lleiaf o wybodaeth bersonol y mae ei hangen arnom yw eich cyfeiriad e-bost neu rif ffôn. Nid ydym yn rhoi eich gwybodaeth i neb y tu allan i’n sefydliad wrth ymdrin â‘ch ymholiad, oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud felly. Ni fyddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi at unrhyw ddiben arall heb gael eich caniatâd.

Os caiff eich ymholiad ei gofnodi, bydd y system yn archifo eich neges ar ôl ymdrin â hi ac yn ei dileu ar ôl 12 mis.

Os byddwch yn mynegi diddordeb mewn cael y newyddion diweddaraf yn rheolaidd o’r wefan, cedwir eich manylion am gyfnod amhenodol. Mae gennych y dewis i wirio y manylion a gawsom gennych, i’w diweddaru neu i ddileu eich enw o unrhyw restrau post trwy gysylltu â ni.

Ymatebion Ymgynghorol


Rydym yn defnyddio ein gwefan yn aml i annog mewnbwn i’r nifer o ymarferion ymgynghorol rydym yn eu cynnal. Ar rai achlysuron, byddwn yn gwahodd ymatebion yn uniongyrchol drwy’r wefan. Pan fydd hyn yn digwydd, mae angen i ni gofnodi eich manylion cyswllt personol er mwyn gwirio ymatebion a, lle bo’n briodol, i ymateb i’ch mewnbwn. Nid ydym yn rhoi dim o’ch gwybodaeth bersonol i neb y tu allan i’n sefydliad oni bai eich bod wedi rhoi caniatâd i ni wneud felly. Ni ddefnyddiwn unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rhoi at unrhyw ddiben arall heb gael eich caniatâd.

Fel arfer, byddwn yn archifo ymatebion a gofnodwyd ar y cyfrifiadur ar ôl chwe mis a’u dileu ar ôl 12 mis.

Manylion Cofrestru


Er nad oes angen i chi gofrestru ar gyfer y rhan fwyaf o’n gwefan, y mae rhai mannau lle mae angen i chi gofrestru. Defnyddir y manylion a geir gennych at y dibenion hyn yn unig oni bai eich bod yn caniatáu i ni i’w defnyddio at ddibenion eraill (er enghraifft i gael eich cynnwys mewn rhestrau post).

Cwcis a Ffeiliau Cofnodi


Darnau o ddata y gellir eu creu’n awtomatig ar eich cyfrifiadur pan fyddwch ar wefan yw cwcis. Rydym yn defnyddio cwcis mewn rhai rhannau o’r wefan hon ond er mwyn eich cynorthwyo chi i allu defnyddio’r wefan yn unig (er enghraifft, yn y llyfrgell luniau er mwyn cadw eich lluniau mewn ‘blwch lluniau’ ar gyfer eich ymweliad nesaf). Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch trwy ddefnyddio cwcis.

Mae ffeiliau cofnodi yn caniatáu i ni gofnodi defnydd ymwelwyr o’r wefan ac rydym yn defnyddio’r wybodaeth hon i wneud newidiadau i gynllun y wefan a’r wybodaeth a gynhwysir ynddi, ar sail y ffordd y mae defnyddwyr yn symud ynddi. Nid yw ffeiliau cofnodi yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi neu unrhyw wybodaeth am ba wefannau eraill rydych chi wedi ymweld â hwy.

Cysylltiadau â gwefannau eraill


Mae www.forestry.gov.uk yn cynnwys cysylltiadau â gwefannau eraill, sef cysylltiadau ag adrannau’r llywodraeth ac â sefydliadau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn gymwys i’n gwefan ni yn unig, felly dylech fod yn ymwybodol o hyn pan fyddwch yn symud i wefan arall gan ddarllen polisi preifatrwydd unrhyw wefan sy’n casglu gwybodaeth bersonol. Nid ydym yn rhoi unrhyw wybodaeth bersonol a gawsom gennych i unrhyw wefan arall.

Mynediad i’ch gwybodaeth a chysylltu â ni



Os bydd unrhyw newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn, byddwn yn gosod y fersiwn ddiweddaraf ar y dudalen hon. Bydd adolygu’r dudalen hon yn rheolaidd yn sicrhau eich bod yn ymwybodol, bob amser, o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y byddwn yn ei rhannu â phartïon eraill.
Medi 2001

 
Gallwch newid eich gwybodaeth gofrestru trwy gysylltu â ni. Os ydych am weld ein cofnodion o unrhyw ohebiaeth rydych wedi’i hanfon atom, neu os oes gennych ymholiad neu gŵyn ynghylch y polisi preifatrwydd hwn neu’r wefan, gallwch gysylltu â ni trwy e-bost, ffôn neu lythyr:
e-bost: Web_master@forestry.gsi.gov.uk
Ffôn: 0131 314 6555
Post:
The Webmaster
Communications Branch
Forestry Commission
231 Corstorphine Road
Edinburgh
EH12 7AT
United Kingdom