Celf yn y Goedwig
Oriel Davies’ Afon Hafren / Prosiect Afon Hafren Mae’r arlunwyr Claire Barber a Morag Colquhon wedi bod yn gweithio gyda disgyblion ysgol leol ac aelodau’r gymuned sydd wrth ymyl Afon Hafren, o Abermiwl, y Drenewydd, Aberhafesp, Caersws, Llandinam a Llanidloes. Mae’r cyfranogwyr wedi cyfuno sidan a beiciau a mieri gyda gwneud cwryglau i wneud celfwaith sydd yn ymateb i’r amgylchedd sydd o amgylch Coedwig Hafren a dyfroedd uchaf Afon Hafren a hynny gan adael defnyddiau traddodiadol celf yn y dosbarth. Mae’r breswylfa gyffrous yma i arlunwyr, sydd wedi cael ei ddyfeisio ac yn cael reoli gan Galeri Oriel Davies, y Drenewydd, wedi cael ei ariannu ar y cyd gan Cywaith Cymru Artworks Wales a’r Comisiwn Coedwigaeth. Fydd y prosiect yn terfynu gyda arddangosfa arbennig yn Gwagle Addysg newydd ei adnewyddu Oriel Davies. Wedi’i ysbrydoli gan hanes y diwydiant tecstil yn y Drenewydd, mae Claire Barber yn y broses o greu celfwaith mawr tecstil sydd adlewyrchu teithiau beiciau ger yr afon yn ogystal â phlanhigion sy’n rhoi lliw sydd i’w gweld ar hyd y daith. Mae plant lleol yn cael hwyl wrth ddysgu am sut i liwio defnydd gyda phopeth o ddanadl poethion i fwyar wedi llwydo! Mae hyd o sidan wedi‘i liwio’n naturiol yn cael ei glymu i deiars ceinciog beiciau a hyd yn oed cadeiriau olwyn, sydd yn cael eu marchogaeth ar lwybrau Coedwig Hafren, drwy fannau chwarae a llwybrau beicio ger yr afon er mwyn treulio y defnydd i greu lasiog. Fe grëir celfwaith newydd o’r broses anuniongred yma. Fel yr esboniodd Claire i ddisgyblion Blwyddyn 3 Ysgol Gynradd Llanidloes, "Gall rhywbeth fel teiar beic rhoi rhywbeth mor brydferth â lluniau rydych yn ei greu yn eich dosbarth arlunio!" Mae Morag Colquhoun arlunydd amgylcheddol sy’n byw yn Aberhonddu wedi arwain grwpiau o bobl ar hyd adran o Goedwig Hafren o Llwybr yr Hafren, sydd yn 210 milltir o hyd, llwybr glan afon hiraf ym Mhrydain. Mae cwryglau bach wedi cael ei lawnsio, gyda negeseuon am amgylchedd a astudiaeth natur yr afon i bwy bynnag caiff ddod o hyd iddynt. Maent ddim ond yn gofyn i’r achubwyr cwryglau drosglwyddo manylion pellter mae’r cychod bach wedi teithio i’r arlunydd !(drwy Oriel Davies). Mae’r cyfranogwyr sydd yn gweithio gyda Morag wedi dysgu sut i gasglu a pharatoi y mieri a chreu cwryglau eu hunain, a hefyd dysgu sut i gael gwm allan o goed sbriws i’w ddefnyddio fel glud. Yn ogystal â darganfod caws llyffant a aeron ar eu taith, mae grwpiau lleol wedi bod yn dysgu sut mae strategaeth newydd coedwigaeth wedi arwain i welliannau arwyddocaol ym mywyd gwyllt Hafren uchaf. Yn awr gwelir trochwyr yn gwibio dros yr afon, arwydd o lefelau asidig iachach nag o’r blaen. Gobeithir y bydd ardaloedd newydd atgynyrchedig o dir agored a mwsogl tebyg i sbwng ar hyd ochrau’r afon, islaw’r tarddiad, yn lleihau y difrod o lifogydd i lawr yr afon yn Y Trallwng, yr Amwythig a thu hwnt. Bu arddangosfa Prosiect Afon Hafren / Severn River Project yn Gwagle Addysg Oriel Davies’ ym mis Tachwedd 2004. Dilynwyd hyn gyda lansiad arbennig cwrwgl ar yr Hafren yn y Drenewydd ym mis Ragfyr. Am ragor o wybodaeth cysylltwch a Swyddogion Addysg Oriel Davies Helen Kozich neu Clare Martin
|