Er mwyn cael gweld y gwaith diweddaraf sydd wedi ei wneud trwy'r Partneriaeth Gyswllt Niwbwrch dilynwch y linc ar y chwith ar gyfer Cyfarfodydd a'r Cynllun Rheolaeth Coedwig Niwbwrch.
Drwy bobl a mudiadau lleol fel Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Comisiwn Coedwigaeth, nod yr ymgynghoriad hwn yw gwella dyluniad, rheolaeth a defnydd Ardal Coedwig a Thywyn Niwbwrch i wella ei gwerth amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn y tymor hir drwy weithio gyda’n gilydd fel un uned.
I gael ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan, cysylltwch â Tim Gordon Roberts reolwr ardal leol tim.gordon-roberts@forestry.gsi.gov.uk ar 0300 068 0300 neu John Browne, Coedwigwr Rhandir Cynllunio Coed y Mynydd john.browne@forestry.gsi.gov.uk ar 0300 068 0300.
Cefndir i Bartneriaeth Gyswllt Niwbwrch
Fe greodd cyngor Cefn Gwlad Cymru a'r Comisiwn Coedwigaeth cydweledigaeth ar gyfer rheolaeth Niwbwrch, a gafodd ei gyflwyno i'r cyhoedd yn 2004.
Cyfarfodydd trefnwyd ar gyfer 2011
Fe gynhaliwyd y cyfarfod diwethaf o Bartneriaeth Gyswllt Niwbwrch ar y 21 Hydref 2010 yn Athrofa Pritchard Jones, Niwbwrch, a'r prif destun trafodaeth oedd Cynllun Rheoli Coedwigaeth Niwbwrch ( dilynwch y cyswllt ar ochr dde'r dudalen i gael copi o'r cynllun rheolaeth orffenedig). Mae cofnodion cyfarfod diwethaf Partneriaeth Gyswllt Niwbwrch hefyd ar gael drwy glicio'r cyswllt Cyfarfodydd ar ochr chwith y dudalen hon)
Fydd y cyfarfod nesaf o'r bartneriaeth yn cael ei gynnal dydd Mawrth 12eg Gorfennaf 2011 yn yr Institiwt Pritchard Jones, Niwbwrch, rhwng 7yp tan 9yp.

