Ebrill 2004
Newyddion am gynhadledd marie.townsend@forestry.gsi.gov.uk, 10a Rhodfa Stryd y Masnachwyr, Abertyleri NP13 1DH; Ffôn 01495 320331.vic.williams@forestry.gsi.gov.ukCoetiroedd Cymru yng Nghanol y Gymuned Cyd-gynhadledd Coed Lleol/Cydcoed, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Dydd Gwener 4 Mehefin, 10am – 4pm Bu’r ymateb i’r gynhadledd ddi-dâl hon yn wych felly cysylltwch â Marie yn fuan os ydych am gael lle – Ymhlith gweithgareddau diddorol eraill, mae’r gynhadledd yn cynnwys cyflwyniadau ar astudiaethau achos o goetiroedd cymunedol llwyddiannus a gweithdy ar sut i redeg prosiect Cydcoed. Os yw eich grŵp chi am fod yn un o’r astudiaethau achos neu’n barod i’n helpu i ddangos sut i redeg prosiect Cydcoed, rhowch wybod i mi – byddai’n wych i ni gael sawl grŵp yn egluro eu prosiectau yn uniongyrchol, yn hytrach na’n bod ni’n siarad amdanynt. Mae angen i o leiaf 6 grŵp gymryd rhan i wneud llwyddiant o hyn. Byddwch cystal â rhoi gwybod i mi erbyn Dydd Gwener 14 Mai os ydych am gyfrannu. Byddwn yn talu am dreuliau teithio a chynhaliaeth rhesymol. Newyddion tîm Llenwi swydd Mark Proctor, Swyddog Prosiectau Cydcoed, Gorllewin Cymru. Bu James Roseblade yn llenwi’r swydd hon am 6 wythnos yn unig cyn cael ei gipio gan uned arall o Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. Gwnaeth James waith ardderchog yn ystod y cyfnod hwn – gan lwyddo i symud ymlaen â sawl prosiect, yn enwedig prosiect Cwm Rhaeadr. Yn ffodus, rydym wedi sicrhau gwasanaethau Gwyneth Davies a Vic Williams o Tir Coed. Gallant lenwi swydd Mark hyd nes iddo ddychwelyd. Mae gan Gwyneth a Viv enw da iawn a llawer o brofiad felly dylai safon y gwasanaeth aros yn uchel – ar wahân i’r ansicrwydd a fu yn ddiweddar – ymddiheuriadau am hyn. Dyma fanylion cysylltu Gwyneth a Vic: Vic Williams Swyddog Prosiectau (Gorllewin Cymru: Sir Benfro, De Sir Gaerfyrddin, De Ceredigion) Tir Coed, Rhodfa Fuddug, Aberystwyth, SY23 2DQ Ffôn: 01970 626548 Ffôn Symudol: 07796 172645
Gwyneth Davies Swyddog Prosiectau (Gorllewin Cymru: Sir Benfro, Gogledd Sir Gaerfyrddin, Gogledd Ceredigion) Tir Coed, Tŷ Lisburne, Pontrhydygroes, Ystrad Meurig, Ceredigion, SY25 6DQ Ffôn: 01974 282476
DS: maent hwy’n ymdrin â phrosiectau Cam II yn unig. Cysylltwch â Louise Jones ( Tudalen we ryngweithiol Cydcoed Rydym ni wedi sefydlu tudalen we ryngweithiol at ddefnydd grwpiau a gyllidir gan Cydcoed, darpar ymgeiswyr, a phobl eraill sydd â diddordeb. Mae ar gael ar wefan rhwydwaith coetiroedd cymunedol Coed Cadw/Woodland Trust. Rwyf yn eich annog chi i gyd i ymuno (mae’n ddi-dâl) drwy fynd i Newyddion diweddaraf am Gam I Cwblhawyd 34 allan o 40 prosiect hyd yma (cwblhawyd 3 ers adroddiad mis Mawrth). Bydd 5 o’r 6 sy’n weddill yn cael eu cwblhau cyn diwedd Mehefin, a chwblheir 1 ym mis Gorffennaf. Er bod yr amserlen hon o fewn terfynau y cytunwyd arnynt gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) roeddem wedi gobeithio cwblhau Cam I yn gynt na hyn er mwyn gallu canolbwyntio ar Gam II. Rydym yn arbennig o awyddus i dderbyn adroddiadau cwblhau ar gyfer prosiectau Cam I – byddwch cystal â’n helpu cymaint ag y gallwch yn y cyswllt hwn. Rydym yn ffyddiog y gallwn ragori ar ein holl dargedau ar wahân i "hectarau o goedwig goetirol a grëwyd" – ychwanegir y diffyg at ein targed ar gyfer Cam II. Rydym ni wedi rhoi £3,820,000 mewn grantiau i grwpiau cymunedol (cynnydd ar y ffigur o £3,700,000 yn adroddiad mis Mawrth) – tua £172,000 i fynd. Ar ddiwedd mis Mawrth 2004 roeddem 4% y tu ôl i’r proffil. Rhagwelir y byddwn yn cwrdd â’r proffil erbyn diwedd y rhaglen. Oherwydd arbedion mewn costau rhedeg, yn enwedig costau staff, byddwn yn gallu rhoi £5,000 yn ychwanegol mewn grantiau nag a ragwelwyd yn wreiddiol. I’r rheiny sy’n rhedeg prosiectau Cam I nad ydynt wedi’u cwblhau’n ariannol: dylech fod yn ymwybodol nad oes gennym unrhyw arian i sbario yng Ngham I felly os nad ydym wedi addo gwariant ychwanegol yn ffurfiol i chi eisoes mae’n annhebyg iawn y byddwn yn gallu eich helpu gydag unrhyw wariant sy’n uwch na’ch cyllideb bresennol. Newyddion diweddaraf am Gam II Mae 31 cais ar y gweill (cynnydd o 10 ers mis Mawrth). Mae 5 prosiect ar y gweill – yr un fath ag yn adroddiad Mawrth ond bod 2 gais yn cael eu hystyried ar hyn o bryd a chymeradwywyd 1. Rydym ni’n cofrestru 56 prosiect posibl, i lawr o 120 ym mis Mawrth o ganlyniad i ymarfer rhesymoli; dylem fod wedi cofrestru mwy o brosiectau posibl erbyn yr adroddiad nesaf. Daw cost y prosiectau hyn i gyfanswm o £6.4M allan o’r £12M sydd ar gael – byddem yn croesawu rhagor o syniadau. O edrych ar yr holl brosiectau, rydym yn gwneud yn dda gyda thargedau ffisegol ond yn awyddus i ddatblygu prosiectau sy’n cynnwys ardaloedd mawr o goetir cymunedol wedi’u creu ar dir an-amaethyddol (neu lawer o brosiectau y mae pob un ohonynt yn cynnwys ardaloedd bach). Os oes gennych syniad ar gyfer prosiect a fyddai’n creu coetir ar dir an-amaethyddol, byddwch cystal â dod i gysylltiad â ni. Rhoddasom £44,412 mewn grantiau i grwpiau cymunedol ym mis Mawrth. Rydym bellach wedi rhoi £176,712. Ar 31/03/2004 roeddem 7% o flaen y proffil. Mae hyn yn llai na’r 25% a ragwelais ym mis Mawrth gan i ni ddal yn ôl daliad grant mawr i un grŵp a oedd heb wneud cynnydd ariannol digonol. Ein nod yw bod 5-10% o flaen y proffil ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (tan yr un olaf pan fydd yn rhaid i ni gwrdd ag ef i’r dim!), felly nid yw 7% yn ddrwg. Newidiadau mewn contractau ar gyfer prosiectau Cam II Yn sgil y gwersi a ddysgwyd yng Ngham I, rydym wedi gwneud sawl newid i’r telerau ac amodau safonol ar gyfer Cam II. Y rhai pwysicaf yw: * Y dyddiad terfynol ar gyfer cwblhau pob prosiect i gael ei ddwyn ymlaen i 30 Mehefin 2008 o 30 Medi 2008. D.S.: nid yw hyn yn cymryd lle unrhyw ddyddiad cwblhau ar gyfer prosiect penodol y cytunir arno gyda chi. * Byddwn yn cadw swm bach ond arwyddocaol o grant yn ôl na chaiff ei dalu hyd nes i’ch adroddiad cwblhau prosiect gael ei dderbyn gennym. Byddwn yn ysgrifennu i’r pum grŵp sydd â phrosiectau Cydcoed Cam II ar y gweill a gofyn iddynt a ydynt am dderbyn y newidiadau hyn – mae gennym gontract gyda’r grwpiau hyn felly nid ydym am orfodi’r newidiadau arnynt. Yn achos prosiectau eraill nas cymeradwywyd eto, bydd y telerau ac amodau newydd yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gontract – gellir cael y dogfennau diwygiedig gan eich Swyddog Prosiect. louise.jones@forestry.gov.uk, 01495 321884) os oes gennych gwestiwn am brosiectau Cam I yng Ngorllewin Cymru.www.woodland-trust.org.uk/communitywoodlandnetwork/a chlicio ar "Discussion", "Enter", "Group folders". Yna dilynwch y cyfarwyddiadau i gofrestru. Mwynhewch y sgwrsio! gwyneth@ystwyth-tircoed.fsnet.co.uk
|