Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  

Y gnocell werdd
 

GREEN WOODPECKER.Y gnocell werdd yw’r mwyaf o’r tair cnocell ym Mhrydain. Maent i’w gweld ledled Cymru a Lloegr a de a dwyrain yr Alban. Wrth hedfan mae’r pen a chynffon bigfain a’r pyliau byr o guro rhwng gleidiadau hir yn nodweddiadol. Gallant fod yn anodd i’w gweld wrth orffwys gan y gallant glwydo heb unrhyw symudiad am funudau llawer a chuddio y tu ôl i gangen.


Ffordd o fyw
Cynefin
Maent i’w gweld yn bennaf mewn coetiroedd llydanddail aeddfed, tir fferm, parciau, gerddi mawr a rhostir a thywynnau’r arfordir.

Bridio
Byddant yn nythu mewn coed aeddfed lle y byddant yn torri twll yn y boncyff neu mewn cangen. Mae’r twll tua 50cm o ddyfnder gydag agoriad bach 6cm o led, a all gymryd cymaint â thair wythnos i’w paratoi. Bydd y ceiliog a’r iâr yn rhannu dyletswyddau gori a bwydo’r rhai ifanc.
Byddant yn cael un nythaid y flwyddyn (Ebrill i Orffennaf) gan ddodwy cyfartaledd o hanner dwsin o wyau gyda chyfnod deor o 17 i 19 o ddiwrnodau.

Datblygiad
Mae’r rhai ifanc yn barod i fynd dros y nyth o fewn tair wythnos.

Lluniaeth
Byddant yn bwyta trychfilod ac maent yn unigryw ymhlith rhywogaethau cnocell y coed gan iddynt fwydo ar y llawr. Mae hyn oherwydd y ffaith eu bod yn bwyta morgrug: byddant yn defnyddio eu pigau cryfion a’u tafodau hirion sydd â phen gludiog i dynnu morgrug a’u chwilerod allan o’u nythod.

Adnabod
Mae’r gnocell werdd yn aderyn digamsyniol a thrawiadol iawn . Mae ganddi blu gwyrddion, pen coch trawiadol a thin melyn a gwyrdd sydd yn amlwg pan fydd hi’n hedfan. Mae’n aderyn sydd yn ymddangos yn gymharol drwm gyda’i chynffon byr a’i phig hir, cryf. Fel cymorth wrth ddringo coed, mae dau fys y troed yn wynebu ymlaen, dau yn ôl. Mae tafod y Gnocell Werdd yn anhygoel o hir, pedair gwaith mor hir â’i phig. Mae hyn yn gadael iddi lyfu i fyny’r trychfilod sydd yn cuddio y tu ôl i risgl y coed.

Sut y byddwn yn rheoli ein coetiroedd.
Bydd cadw coed llydanddail aeddfed, mawr a choed mawr marw yn ein coedwigoedd yn creu cynefin delffrydol i’r gnocell werdd. Mae’n bwysig hefyd bod mannau agored yn ymyl eu nythfannau. Yn ystod y tymor bridio ni chynhelir unrhyw weithgareddau cynaeafu neu goedwiga o fewn 100 metr i safle nythu hysbys.

GREEN WOODPECKER.

 

Ystadegau Bywyd
Hyd: 31-33cm
Lled yr Adenydd: 40-42cm
Pwysau: 180-220gOes: 15 mlynedd.
Niferoedd yn y DU: 15,000 o barau bridio.

 

Beth sydd o ddiddordeb
Yn ogystal â’i hymddangosiad unigryw, mae’n hawdd adnabod y gnocell werdd gan ei chri fel pwl sydyn o chwerthin. Mae’n gallu gwneud sŵn trwy guro’r coed hefyd, ond heb yr atsain a geir gan rywogaeth eraill o gnocellau.

to DirectGov