Comisiwn Coedwigaeth
i dudalen gartref Cymru

Y groesbig gyffredin

Y Groesbig yw pinc byrdew, yn fwyn na’r llinos werdd, gyda phig sydd yn hawdd ei hadnabod. Mae’n fawr, yn drwchus ac yn gryf gyda gorfannau sydd yn croesi yn y blaen. COMMON CROSSBILL FEEDING YOUNG.

Enw:
Y Groesbig Gyffredin

Ffordd o fyw
Cynefin
Maent i’w gweld yn bennaf mewn cysylltiad â chonifferau megis sbriswydd, llarwydd a ffynidwydd. Ond mae cnwd yn gonau’n amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall. Mae’n bosibl y bydd coedwig gyfan yn llawn conau yn y naill flwyddyn ac yn wag yn y llall. Mae hyn yn golygu nad oes patrwm i fudiadau’r Groesbig sydd yn fwy crwydrol ei hymddygiad, gan chwilio am goedwigoedd mawrion â chonifferau ffrwythlon. Fel arfer bydd y Groesbig Gyffredin yn nythu’n uchel mewn coed coniffer gan ddodwy mewn nyth cwpaog a wneir gan yr iâr gan ddefnyddio brigau coniffer, mwsogl, cen a gair, gyda mewn haenen o wair meinach, blew a gwlân.

Lluniaeth
Bydd y Groesbig yn defnyddio ei phig unigryw i fwyta hadau coniffer, yn enwedig llarwydd, ffynidwydd a sbriwswydd. Maent hefyd yn ychwanegu at eu maeth gydag aeron, hadau eraill di-asgwrn-cefn a chreaduriaid.

PAIR OF COMMON CROSSBILLS TENDING TO THEIR YOUNG. NORTH SCOTLAND. NEST IN SITKA SPRUCEBridio
Mae bridio’n dibynnu ar gnwd y conau a bydd yn amrywio o’r naill flwyddyn i’r llall, a gall ddigwydd bron unrhyw bryd. Fel arfer bydd pedair ŵy las ysgafn gyda smotiau piws ar un pen mewn nythaid. Yr iâr sydd yn eu gori, a bydd y ceiliog a’r iâr yn bwydo’r cywion ar ôl iddynt ddeor. Maent yn deor ar ôl pythefnos a byth y cywion yn mynd dros y nyth ar ôl dwy i dair wythnos.  


Adnabod

Mae’r ceiliog yn rhuddgoch deniadol, gyda chorun a thin llachar, ac adenydd a chynffon dugoch tywyll. Mae’r iâr yn wyrddlwyd gyda thin melyn gwelwach ac adenydd, cynffon a chefn llwytgoch. Mae’r rhai ifanc yn llwytgoch yn bennaf gyda thor streipïog.

Sut y byddwn yn rheoli’n coetiroedd
Bydd systemau coedwraeth effeithiau isel yn darparu mwy o goed aeddfed a fydd yn dwyn cnydau parhaus o gonau ac felly’n cynnig bwyd i’r Groesbig gyffredin.

Ystadegau Bywyd
Hyd: 16.5cm
Pwysau: 34-38g
Lled adenydd: 27-30cm
Niferoedd yn y DU: Tua 10,000 o barau bridio.

Beth sydd o ddiddordeb

Bydd y Groesbig yn trydar mewn cwafrau byrion. Mae’r cri wrth hedfan yn ‘tsip, tsip’ uwch a dyfalbarhaus.