|
|
Y dylluan hirglust
Aderyn coetirol y nos yw’r Dylluan Hirglust sydd yn wasgaredig ledled Wrop, Siapan, Gogledd America a Gogledd Affrica. Er nad yn frodorol ym Mhrydain mae wedi ymsefydlu mewn rhannau o Gymru a Lloegr.
Enw Y Dylluan Hirglust
Ffordd o fyw cynefin Maent yn byw mewn coetiroedd agored, lleiniau o goedwig ar hyd afonydd, perthi a cheunentydd a rhigolau coediog. Yn ystod y gaeaf mae angen cellļoedd trwchus o gonifferau neu ddrysgoed trwchus i glwydo ynddynt. Mae’r clwydfannau fel arfer yng nghanol y gorchudd mwyaf trwchus sydd ar gael. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o dylluanod, byddant yn clwydo’n dorfol yn ystod y gaeaf (7 i 50 o adar) mewn drysgoed trwchus, gan hedfan dros cylchoedd hela helaeth iawn. Mae’r Dylluan Hirglust yn hedfan yn rhwydd ac yn gleidio’n ddi-sŵn hyd yn oed pan yn curo’r adenydd. Maent yn symud yn heini iawn, ac maent yn gallu hedfan trwy lwyni dwys iawn. Maent yn hedfan fel gwyfynnod, gan hofran ac ymysgwyd tra’n chwilio am eu hysglyfaeth. Bridio Mae’r Dylluan Hirglust yn hoffi nythu mewn hen nythod adar eraill neu wiwerod. Bydd yr iār yn dodwy 4-6 o ŵyau gwynion, fel arfer ym mis Mawrth neu fis Ebrill ac yn eu gori heb gymorth am 27-28 o ddiwrnodau pan fydd y ceiliog yn ei bwydo. Lluniaeth Yn bennaf yn bwyta llygod y maes, chwilod Mai, llygod, trychfilod a chwilod eraill a ddelir yn y tywyllwch. Yn y gaeaf maent i’w gweld yn hedfan mewn heidiau i hela cnofilod. Bygythiadau Ymddengys bod dosbarthiad y dylluan hon yn lleihau’n gyflym ond ni wyddys y rheswm am hynny hyd yn hyn.
Adnabod Mae’r dylluan gyfrinachol hon yn fain ei llun gyda thuswau hir a ddehonglir ar gam fel clustiau - mae’r clustiau mewn gwirionedd ar ochr y pen. Mae’r ceiliog a’r iār yn debygol iawn i’w gilydd byda phlu brithion melynddu a dugoch a llygaid oren tanbaid, er bod yr iār yn tueddu i fod yn fwy tywyll na’r ceiliog. Mae llygaid arbennig o dda gan y Dylluan Hirglust ac maent yn gallu clywed mewn tri dimensiwn. Byddant yn hela yn ystod y nos dros gaeau a thir agored, ac yn ystod y dydd byddant yn dychwelyd i’r coetiroedd i glwydo yn enwedig mewn ffynidwydd. Yn ystod y gaeaf maent i’w gweld yn cysgu mewn grwpiau.
Sut y byddwn yn rheoli ein coetiroedd Mae ein hardaloedd o glirdorri, cadwraeth reoledig a System Coedwraeth Effeithiau Isel yn creu’r cynefin rheoledig delfrydol i’r Dylluan Hirglust.
A wyddoch chi? Wrth glwydo bydd y Dylluan Hirglust yn ymestyn ei chorff i edrych yn debyg i gangen.
Ystadegau bywyd Hyd: 35 i 39 cm Lled yr adenydd: 39 cm Pwysau: 260-280 g Oes: Gallant fyw am 10 mlynedd. Niferoedd yn y DU: 1-3,000 
|
Beth sydd o ddiddordeb
Cri’r dylluan yw hŵ isel, tawel; bydd y rhai ifanc yn gwneud sŵn fel clwyd gwichiog. Wrth gael eu brawychu maent yn hisian neu’n sgrechian fel cath.
|
 |