Y lleiaf o’r pinciaid yw’r pila gwyrdd sydd ar gynnydd sylweddol ers deng mlynedd ar hugain. Mae conifferau, yn enwedig llarwydd, yn ffafrio’r pila gwyrdd
Enw
Y Pila Gwyrdd (Carduelis spinus)
Ffordd o fyw
Cynefin
Maent i’w gweld mewn coed bedw, gwerni a choed cymysg yn ogystal â choetiroedd conifferau, lle y byddant yn gwneud eu nythod gyda brigau, gwair, mwsogl, blew, plu a gwlân. Maent yn wasgaredig ledled Cymru a’r Alban a byddant yn mudo hefyd i rannau dwyreiniol a chanol Lloegr o’r cyfandir yn ystod misoedd y gaeaf. Maent yn breswylwyr trwy gydol y flwyddyn yng Nghymru, ac maent i’w gweld mewn gerddi hefyd yn bwydo ar hadau a roddir allan ar gyfer adar gwyllt.
Lluniaeth
Byddant yn bwyta hadau a nifer o drychfilod, gan ddod yn rheolaidd i fyrddau adar a chratsiau cnau mwnci mewn gerddi.
Bridio
Byddant yn nythu yn uchel ym mrigau’r coed yng Nghymru a’r Alban, gan ddodwy 4-5 ŵy yn ystod Ebrill, Mai neu Fehefin. Bydd y cywion yn deor ar ôl pythefnos, a phythefnos wedyn byddant yn magu plu. Er bod y ceiliog a’r iâr yn rhannu dyletswyddau bwydo, yr iâr yn unig fydd yn adeiladu’r nyth ac yn gori.
Adnabod
Mae gan y pila gwyrdd big hirfain a chynffonnau fforchog nodweddiadol. Mae gan y ceiliog gorff melyn a gwyrdd deniadol gyda chorun a bron ddu. Mae’r iâr yn llai llachar, gyda streipiau dugoch ar y pen ac o dan yr ên. Wrth hedfan mae’n ymddangos bod adenydd y ceiliog yn cwrdd uwchben ei gefn, ac mae’n lledu ei gynffon i ddangos mannau melyn llachar.
A wyddoch chi?
Mae’r pila gwyrdd yn sionc iawn wrth fwydo ac yn fedrus wrth ddefnyddio eu traed i ddod â bwyd sydd yn crogi o fewn cyrraedd.
Ystadegau bywyd
Hyd: 12cm
Lled yr adenydd: 20-23cm
Pwysau: 12-18g
Oes: 10 mlynedd.
Niferoedd yn y DU: 310,000 o barau bridio.
