Croeso i hafan Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar gyfer Ynni Pren. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn cefnogi datblygu Ynni Pren – ffynhonnell lân, effeithiol ac adnewyddadwy ar gyfer ynni. Mae tanwydd pren yn ffynhonnell gynaliadwy o fio-ynni, sy’n cynnwys ond ychydig o garbon ac a all wneud cyfraniad pwysig o ran cyrraedd y targedau hyn. Er bod carbon deuocsid yn cael ei ryddhau wrth losgi pren, mae hyn yn cael ei gydbwyso gan y carbon deuocsid a gafodd ei amsugno pan oedd y coed yn tyfu’n wreiddiol a phan fydd coed newydd yn tyfu. Mae modd ei ystyried yn fath o ynni’r haul sy’n cael ei ddal gan goed wrth iddyn nhw dyfu.
Mae Llywodraeth y DG wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy gael 80% yn llai o allyriadau nwyon tŷ gwydr nag yn 1990 erbyn 2050.
Odd mewn i’r Comisiwn Coedwigaeth, mae Cymru, Lloegr a'r Alban yn gweithio ar y cyd â llawer o sefydliadau yn y sectorau preifat a chyhoeddus i helpu i ddiwallu'r targedau bio-ynni hyn ar gyfer y DG.
I gael rhagor o wybodaeth am ynni adnewyddadwy a pholisi newid yn yr hinsawdd yn y DG, ewch i wefan yr Adran Ynni a Hinsawdd. Mae defnyddio pren o goedydd sy’n cael eu rheoli’n dda yn rhoi ffynhonnell adnewyddadwy o danwydd a chynhyrchion eraill yn ogystal â rhoi cymhelliad i berchnogion coetiroedd reoli eu tir yn gynhyrchiol, gan wella’r amodau i fywyd gwyllt ac amwynderau.
Ewch i Cynllun Busnes Ynni Pren>
Mae ymchwil a datblygu wedi adeiladu ar yr hanes hir o ddefnyddio pren yn ynni, ac mae bwyleri tanwydd pren glân ac effeithlon, sy’n llosgi naill ai naddion neu belenni pren, yn mynd yn fwy poblogaidd yn y DG. Mae’r rhain yn hawdd eu defnyddio ac yn effeithlon – ac yn rhoi marchnad ar gyfer adnodd adnewyddadwy lleol.
Er eu bod yn ddrutach i’w prynu, gall y gost o redeg bwyler tanwydd pren fod yn rhatach nag ar gyfer bwyler olew. Mae tanwydd pren yn gweithio orau ar raddfa leol – pan fo coed lleol yn cael eu defnyddio mewn bwyleri effeithlon i ddarparu gwres at ddefnydd busnes a chymuned, mae yna lai o gostau cludo a llai o allyriadau.

