Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
  •  


Llwybrau’r Enfys yn Nyfnant
 

Corrall in Dyfnant forest. Coed y Gororau Forest DistrictY Cefndir/Cyd-destun

Mae pobl sy’n marchogaeth wrth eu bodd â golygfeydd godidog, tiroedd amrywiol a heriol, a thipyn o lonyddwch. Mae’r rhain i gyd a mwy i’w cael yng ngelltydd a choedwigoedd Cymru diolch i nifer o bobl frwd sy’n barod i gydweithio ac i dorchi eu llewys.

Disgrifiad/Pam

"Mae Dyfnant yn goedwig anghysbell sydd ar dir uchel rhwng dau gwm i’r de o Lyn Llanwddyn. Bu’n lle ardderchog erioed i gael tipyn o ymarfer corff iachus wrth gerdded trwy’r coetiroedd gan fwynhau’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt ac mae yno gylch o feini hirion sy’n siwr o ddenu’r rhai sy’n hoff o hanes. Roedd ganddo’r potensial hefyd i fod yn lle da i farchogaeth.

Roedd Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n gweld hyn a buont yn cydweithio â’r Dyfnant and Vyrnwy Horse Riders' & Carriage Drivers' Association (DVHRCDA) i greu Llwybrau’r Enfys. Llwyddodd grŵp adfywio cymunedol lleol i gael cyllid a bu aelodau DVHRCDA a’u partneriaid wrthi fel lladd nadroedd yn gweithio’n wirfoddol. Trwy hynny, llwyddwyd i wneud y defnydd gorau o Goedwig Dyfnant i ddenu pobl i farchogaeth a phobl sy’n gyrru ceffyl a cherbyd.

Erbyn hyn, ceir pump o Lwybrau’r Enfys ar gyfer pobl sy’n marchogaeth, yn amrywio o lwybr Tuth Banw, 8km (5 milltir), ar gyfer dechreuwyr, i Gerrig yr Helfa sy’n 25km (16 milltir) o hyd ac yn addas ar gyfer pobl fwy profiadol. Mae llwybr Marathon Glasfryn yn ddelfrydol ar gyfer gyrwyr ceffyl a cherbyd. Mae iddo dair rhan sy’n dipyn o her ac mae’n gyfle i deithio ar hyd lonydd y goedwig â’u gatiau arbennig ar gyfer ceffyl a cherbyd.

Rider using trailer pull-in. Dyfnant forest. Coed y Gororau Forest DistrictMae arwyddion clir ar Lwybrau’r Enfys ac fe geir golygfeydd ardderchog a digon o lonyddwch ar bob un ohonynt. Ceir cyfleusterau ardderchog ar gyfer defnyddwyr y llwybrau diogel hyn sydd oddi ar y ffordd fawr. Mae yna faes parcio wedi’i gynllunio’n arbennig fel nad oes angen bacio mewn llefydd anodd neu beryglus a chae bach y gallwch droi’r ceffylau iddo tra byddwch yn mwynhau picnic neu’n paratoi’r trelar ar gyfer y daith adref.

Prosiectau i ddod

"Yn ogystal â Llwybrau’r Enfys, mae gan Gymru ragor o lwybrau marchogaeth erbyn hyn, yn cynnwys mynediad agored i geffylau a cherbydau, yng Nghoedwig Crychan ger Llanymddyfri. Ceir llwybrau marchogaeth mewn coetiroedd eraill hefyd ac rydym yn gobeithio datblygu rhagor o lwybrau arbennig yn y dyfodol."





to DirectGov