Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  


Tramffordd brinore
 

Finger Post erected by Trevor Fishock for launch of Brinore Tramroad Conservation ForumYm 1815 cafodd tramffordd ei hadeiladu rhwng Rhymni a chamlas Brycheiniog a Mynwy yn Nhal-y-bont ar Wysg. Roedd tramiau’n pwyso hanner tunnell yn cael eu defnyddio i symud calch a choed i gamlas Brycheiniog.

Erbyn 1884 roedd y dramffordd yn segur. Yn y blynyddoedd ers ei chau mae’r dramffordd, sy’n llwybr ceffylau statudol, wedi dioddef o ddiffyg gwaith cynnal a chadw a difrod wedi’i achosi gan gerbydau modur.

Mae tua 80% o’r llwybr yn rhedeg drwy Goedwig Tal-y-bont a reolir gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru. O ganlyniad i ymarfer ymgynghori â’r cyhoedd, ffurfiwyd Fforwm o bobl leol gyda chymorth brwd y cynghorau cymuned lleol, trigolion yr ardal, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Tref Tredegar, Dyfrffyrdd Prydain a Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i benderfynu sut y gellid diogelu’r dramffordd er lles y cymunedau lleol.BRINORE TRAMROAD - Hedging work on Brinore Tramroad

Cwblhawyd cynllun rheoli sylfaenol gan ymgynghorydd (wedi’i gyllido gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog). Edrychodd y cynllun ar gyflwr y dramffordd bryd hynny, y gwaith yr oedd angen ei wneud i’w chynnal a sut i gael cyllid pellach.

Fel canlyniad wnaeth y prosiect denu grant o £33,250 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Cafodd yr amser a dreuliwyd gan CC Cymru ei gostio a’i gynnwys yn y cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri fel cyllid partneriaeth ar gyfer y prosiect. Talodd yr arian am arolwg archaeolegol a darparwyd arddangosiadau deongliadol yn Nhal-y-bont a Threfil.

Cafodd yr ymgynghoriad ddylanwad hefyd ar y cynllun coedwig ar gyfer yr ardal: adeiladodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru ffyrdd newydd i mewn i’r goedwig ar gyfer peiriannau cynaeafu i osgoi defnyddio’r dramffordd hanesyddol a defnyddir ‘skylines’ i gynaeafu ardaloedd anhygyrch. Bydd aelodau’r Fforwm a’r Parc Cenedlaethol yn archwilio’r safle yn sgil cynaeafu i sicrhau bod CC Cymru wedi cadw at ei ymrwymiad i beidio â gadael i waith cynaeafu masnachol effeithio ar y dramffordd newydd ei hadfer.

Mae gwaith adfer a gwblhawyd eisoes gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru yn cynnwys cloddio’r safle, plannu gwrychoedd, gwneud draeniau a gosod clwydi, arwyddion a cherrig marcio newydd ar hyd y llwybr - mae gan y dramffordd ei hunaniaeth arbennig ei hun gyda symbol Brinore ar y mynegbyst, clwydi a chamfeydd derw. Gwnaethpwyd llawer o’r gwaith cloddio, plannu a thorri gan gwirfoddolwyr wedi eu denu o Dal-y-bont a Threfil. Bu gwirfoddolwyr Raleigh International yn helpu i glirio’r safle, dinoethi’r cerrig, gosod draeniau a thocio’r coed cyll am dair wythnos o dan oruchwyliaeth staff CC Cymru. Mae CC Cymru hefyd wedi plannu coed llydanddail ar hyd y llwybr.

Brinore Tramroad - The old tram line is clearly visibleCafodd arweiniad i hanes y dramffordd, "Walks and Rides along the Brinore Tramroad", ei lansio yn ystod y seremoni gosod replica o dram yr 1840au a rhoddwyd gan Dyfrffyrdd Prydain ym mis Hydref 2003.

Cynorthwywyd gwaith y Fforwm gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru a Dyfrffyrdd Prydain a chafwyd grant sylweddol o Gronfa Datblygu Cynaliadwyedd y Parc Cenedlaethol a rhoddion eraill gan ymddiriedolaethau ac aelodau unigol.

 

Beth sydd o ddiddordeb
Gellir cael gwybodaeth am Dramffordd Brynoer gan:

Mansel Jones, Rheolwr Ardal Leol, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, ar 01550 720394

Peter Seaman, Ysgrifennydd Mygedol, Fforwm Cadwraeth Tramffordd Brinore, ar 01874 676225.

Defnyddir y dramffordd gan gerddwyr, beicwyr a marchogion sy’n gallu mwynhau ffurfiannau craig diddorol, safleoedd unigryw ein treftadaeth ddiwydiannol a golygfeydd bendigedig o ddyffryn Wysg.


to DirectGov