Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Tachwedd 2003
 

Cydcoed Cam I

Dim ond mis sydd ar ôl bellach i gwblhau nifer o brosiectau erbyn 31 Rhagfyr 2003.

Mae’n ymddangos na fydd nifer o brosiectau yn defnyddio’r arian a neilltuwyd ar eu cyfer. Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i ni os na fydd eich prosiect chi yn defnyddio’r holl grant a roddwyd i chi er mwyn i ni allu rhoi’r arian hwn i brosiectau eraill sydd ei angen.

Cydcoed Cam II

Mae dau brosiect sy’n werth £182K gyda’i gilydd yn dal i fynd yn eu blaen. Mae gennym 7 cais ar y gweill am grantiau o £930,000 i grwpiau cymunedol. Mae croeso i syniadau newydd ar gyfer prosiectau posibl yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym wedi dylunio arf Excel newydd i asesu cynnydd yn erbyn targedau yn erbyn grant sydd wedi’i ymrwymo. Mae hwn yn dangos bod yr holl brosiectau sydd ar y gweill a’r ceisiadau sydd ar y gweill ar darged neu wedi mynd heibio’r targed ac eithrio "Hectarau o goetir cymunedol newydd ar dir an-amaethyddol". Fodd bynnag, mae gennym dri phrosiect creu coetiroedd yn yr arfaeth a fyddai’n cyfrannu 105 hectar, ac rydym felly’n dal yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y targed hwn. Os edrychwn ar yr holl brosiectau posibl, gwelir ein bod wedi mynd heibio’r holl dargedau ac eithrio ar gyfer "Nifer y coedwigoedd lle ceir cyfranogiad cymunedol" a "Nifer y cynlluniau rheoli coetir cynaliadwy ychwanegol". Mae angen i ni ddod o hyd i brosiectau sy’n cynnwys llawer o goedwigoedd unigol, a dwyn y prosiectau creu coetir mawr ymlaen.

Newyddion am y Tîm

Dominic Driver, Rheolwr Rhaglen Cydcoed yw cadeirydd Gweithgor y Fforwm Coetiroedd "Coetiroedd i Gymru". Y Fforwm Coetiroedd yw’r corff sy’n cynghori Llywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau megis Comisiwn Coedwigaeth Cymru ar sut i weithredu Coetiroedd i Gymru, sef Strategaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Coed a Choetiroedd.

Mae’r strategaeth yn cynnwys pum thema: Coetiroedd i Bobl; Pwyslais Newydd ar Reoli Coetiroedd; Cymru fel Lleoliad ar gyfer Diwydiannau Coedwigoedd Ymhlith y Gorau yn y Byd; Amgylchedd Amrywiol ac Iach; a Thwristiaeth, Hamdden ac Iechyd. Maent hwy i gyd wedi’u hintegreiddio, ond Coetiroedd i Bobl yw’r thema sy’n fwyaf perthnasol i’r math o weithgareddau y byddai grŵp a ariennir gan Cydcoed yn ymgymryd â hwy.

Mae penodiad Dominic yn golygu y bydd gennych, drwy eich gwaith gyda thîm Cydcoed, y grym i ddylanwadu ar y ffordd y gweithredir Coetiroedd i Gymru. Cofiwch ddefnyddio’r grym hwnnw!


Coetiroedd I Bawb logo


to DirectGov