|
Enghreifftau hyfforddiant
Enghraifft o hyfforddiant nad ydym yn debygol o’i ariannu: Mae eich grŵp yn gyfrifol am goedwig leol. Rydych am gael rhywfaint o hyfforddiant ar sut i reoli’r goedwig. Ni fuasai’r costau hyfforddi hyn fel arfer yn gymwys i dderbyn cymorth Cydcoed. Dyma enghraifft o hyfforddiant sy’n debygol o dderbyn cyllid: Mae eich grŵp yn gyfrifol am goedwig leol. Mae eich prosiect yn golygu teneuo rhai mannau trwchus o’r goedwig. Mae’r grŵp yn awyddus i wneud y gwaith ei hun gan y byddai hyn yn creu mwy o berchenogaeth leol. I wneud y gwaith, mae angen hyfforddiant ar y grŵp ar sut i ddewis pa goed sydd angen eu tynnu allan a sut i’w cwympo’n ddiogel. Buasai costau’r hyfforddiant fel arfer yn gymwys i Gydcoed ond iddynt fod yn gyfran gymharol fechan o’r gost.
|

|
 |
 |