Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  


Mehefin 2003
 

Cam I

Mae 40 prosiect ar y gweill, 2 wedi eu cwblhau yn ffisegol, ac 1 yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd (mwy na thebyg dyma’r prosiect olaf i’w gymeradwyo yng Ngham I).
Rydym wedi ymrwymo bron y cyfan o’n grant.
Rydym wedi cyfrannu £2.3M fel grantiau i’r grwpiau cymunedol. Mae hyn yn £500K yn is na’r targed ond cynyddodd y grant a roddwyd ym Mai yn gyflym ac felly rydym yn dal yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y targed eto erbyn diwedd y prosiect.
Rydym yn anelu i orgyflawni ar ein holl allbynnau ar wahân i hectarau y coetir cymunedol newydd ar dir anamaethyddol.
Disgwylir y bydd 39 prosiect yn cael eu cwblhau yn ffisegol yn ôl y cytundebau neu yn cael eu newid drwy gytundeb ar y cyd. Mae un prosiect mewn perygl o fethu ar hyn o bryd.

Cam II

Mae fformat y cynnig a’r canllawiau sylfaenol ar gyfer Cam II wedi’u cymeradwyo.
Mae gennym eisoes 150 o brosiectau ar ein llyfrau – sefyllfa wych i fod ynddi – ond rydym yn dal i fod yn awyddus i glywed am brosiectau posibl eraill.
Mae gennym un prosiect ar y gweill ac rydym ar hyn o bryd wrthi’n datblygu un cynnig arall mewn modd cadarnhaol. Rydym eisoes wedi rhoi £33500 mewn cymorthdaliadau i grwpiau cymunedol – dwbl ein targed.
Mae targedau Cam II ar gyfer 2003 yn weddol ddistadl ond byddwn yn cynyddu gweithgarwch Cam II ar ddiwedd Cam I ym Mawrth 2004.

Newyddion tîm

Mae’r brif swyddfa ar gyfer Cydcoed wedi’i symud dros dro i Blaenau (gweler manylion cysylltu). Bwriedir symud i adeiladau parhaol yn Abertileri yn Awst 2003, a bydd manylion cysylltu yn dilyn fel y bo’n briodol.
Bydd y Gweinyddwr Rhaglen newydd yn dechrau ar ei waith ar 10 Gorffennaf 2003. Dylai Swyddog Prosiect newydd De Ddwyrain Cymru fod wrth ei waith erbyn diwedd Gorffennaf. 

yn ôl i gartref Cydcoed





to DirectGov