Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  


Medi 2003
 

Cydcoed Rhan 1

Mae portffolio prosiectau Cam 1 yn gyflawn pan gymeradwyir prosiect diweddaraf Cam 1 (creu coetir!).
Rydym wedi ymrwymo ychydig dros 100% o’n grant (fe ariannir yr "ychydig dros"drwy gynilion cymedrol yng nghostau’r Staff) yn ôl i gartref Cydcoed

Mae diwedd Medi yn ddyddiad terfynol o bwys yn ariannol i ni. Digwydd hyn oherwydd bod Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru yn defnyddio diwedd Medi i adrodd i’r Comisiwn Ewropeaidd am ddatblygiad ei rhaglen Amcan Un Cymru fel cyfanwaith.

Dylem orgyflawni yn ein holl dargedau ar wahân i "Ha o Goetir Cymunedol ar Dir Anamaethyddol"; fe ychwanegir y diffyg yn y targed hwn at ein targed Cam II.

Ceir cyfanswm o 40 prosiect. Mae’r cyfan ar wahân i un o’r prosiectau ar y trywydd iawn i’w cwblhau yn ffisegol erbyn diwedd Rhagfyr 2003.


Cydcoed Rhan II

Ni fu unrhyw newidiadau i’r adroddiad ers y diweddaru diwethaf, er fod argymhellion newydd yn cyrraedd yn aml ac yn fynych.

Newyddion am y Tîm

Mae Mark Proctor, Swyddog Prosiect Cydcoed dros Orllewin Cymru wedi newid swyddfa.
Ei fanylion cysylltu newydd yw:
Cyfeiriad: 93 Main Street, Penfro, Sir Benfro, SA71 4DB Ffôn: 01646 687463
Yr un yw manylion ei ffôn poced (07779 627664) a’i ebost (mark.proctor@forestry.gsi.gov.uk).

Taliadau Grant

O ganlyniad rydym yn awyddus eich bod yn anfon atom mewn pryd unrhyw geisiadau sy’n daladwy cyn diwedd Medi (a hyd yn oed y rhai sydd i’w talu yn union wedi diwedd Medi os yn addas) – mae hyn yn cynnwys prawf o’r gwariant i gefnogi’r ceisiadau.



to DirectGov