Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  


Grwpiau cymunedol
 

Nid yw Cydcoed yn derbyn ond cynigion oddi wrth grwpiau cymunedol a sefydlwyd yn benodol. Rhaid fod gan y grŵp ei gyfrif ei hun sy’n gallu derbyn sieciau grant Cydcoed a rhaid i’r gronfa gael ei rheoli ar lefel leol.

Fel arfer, o safbwynt prosiectau dros £10,000 rhaid i’r grŵp fod wedi ei ymgorffori fel cwmni a gyfyngir gan warant A/NEU fel elusen gofrestredig A/NEU wedi ei gofrestru drwy Ddeddf Ddiwydiannol a Chymdeithasau Gyfeillgar 1965, NEU lle nad oes unrhyw opsiwn arall ar gael, fel Cyngor Cymuned neu Gyngor Tref. Fel arfer, rhaid i’r grŵp fod yn berchen ar gyfansoddiad a gydnabyddir yn gyfreithiol os yw’r prosiectau dan £10 000 neu ar gyfer prosiectau lle ceir ôl-hawliau neu lle mae risgiau eraill yn isel.

Ni fyddwn yn talu grantiau i awdurdodau unedol, asiantaethau’r llywodraeth, sefydliadau sy’n gwneud elw, unigolion a chymdeithasau anllywodraethol ar draws Cymru. Gall eich Swyddog Prosiect eich cynorthwyo i sefydlu grŵp; gweler Sut i Ffurfio Grwp Cymunedol.

 

Coetiroedd I Bawb logo


to DirectGov