Sut i hawlio grantiau
Y Grŵp yn unig all hawlio’r grant(iau). Mae’r amserlen hawlio’n rhan o’r Rhaglen Weithfeydd. Mae dwy ffordd o drefnu hawliadau: - Ymlaen llaw. Naill ai yn ysbeidiol neu pan gewch anfodeb. Cewch hawlio hyd at dri mis cyn gwariant. O fewn 3 mis o’i gael, rhaid i chi roi prawf i ni eich bod wedi gwario’r grant. Os na wnewch hynny, mae’n bosibl y byddwn yn mynnu i chi dalu’r grant yn ôl i ni ac unrhyw log a gawsoch ar y grant sydd heb ei wario. Os bydd eich gwariant go iawn yn llai nag a ddisgwyliwyd byddwn yn lleihau’r hawliad nesaf yn unol â hynny. Os dyma’r hawliad olaf, byddwn yn mynnu i chi dalu yn ôl unrhyw grant sydd heb ei wario.
- Yn ôl-syllol gyda phrawf o wariant. Yn ysbeidiol neu wrth dalu pob anfoneb.
Dim ond os bydd eich Swyddog Prosiect yn fodlon ar gynnydd ffisegol ac ariannol eich prosiect y telir grantiau. Rhaid gwneud hawliadau’n ysgrifenedig neu drwy e-bost ar y ffurflen a ddarperir. Rhaid i grwpiau gadw cofnodion cyfrifon o hawliadau a gwariant. Rhaid nodi’r eitem yn y Rhaglen Weithfeydd ar bob eitem sydd yn gysylltiedig ag ef. Nid oes rhaid ail-ddarogan cynnydd ariannol bob tro y byddwch yn hawlio. Byddwn yn addasu’ch hawliad yn unol â’ch cynnydd ariannol. Hawliwch yr hyn y mae’ch Rhaglenni Weithfeydd yn dweud y dylech ei hawlio. Os bydd eich Rhaglenni Weithfeydd yn mynd yn rhy hen byddwn yn cysylltu â chi er mwyn cytuno ar addasiadau. Prawf o wariant Mae’r enghreifftiau’n cynnwys anfonebau gyda derbynebau atodedig, o, anfodebau wedi eu llofnodi a dyddio gan y cyfleuster fel rhai sydd wedi eu talu, anfonebau gyda chefnogaeth mantolebau banc, neu daflenni amser. Nid yw tystiolaeth y codwyd tâl arnoch (e.e. anfoneb yn unig) yn dystiolaeth o wariant. Nid yw anfoneb oddi wrthych chi atom ni’n brawf gwariant, na thraws-trosglwyddiadau tâl mewnol. Rhaid i chi brofi bod yr arian wedi’i dalu i gorff arall. DS: Rhaid nodi ar bob eitem o dystiolaeth o nodau Rhaglenni Weithfeydd faint o'r gost oedd am gyflwyno'r prosiect a faint oedd am weinyddu cyffredinol. Taflenni amser Rhaid i daflenni amser am staff cyflogedig sydd yn gweithio ar eich prosiect gofnodi 100% o amser y swyddog gan gynnwys y canlynol: Cadarnhad gan y swyddog perthnasol a rhywun arall (e.e.rheolwr atebol) eu bod wedi gwneud y gwaith Gallwn roi taflen amser i chi neu cewch ddefnyddio’ch un chi os caiff ei chymeradwyo gennym ni. Rhaid gwerthuso’r amser ar raddfa a gytunir gyda ni. Mae’n bosibl y bydd cyfradd gyflog y swyddog a chyfradd awr am ei gostau sefydlog (heblaw am yswiriant) yn ddilys os gallwch gynnig cyfiawnhad. Cliciwch yma am fersiwn Excel o'r taflen amser.
Cliciwch yma am fersiwn Pdf o'r taflen amser. - mynegiad clir o’r amser a dreuliwyd ar prosiect Cydcoed.
- yr awrdal, a
- cyfeirnod eitem Rhaglen Weithfeydd Cydcoed sydd yn ymwneud ar amser a weithwyd.
Amser gwirfoddolwyr Nid yw gwerth amser gwirfoddol yn gweithredu fel arian cyfatebol Cydcoed. Mae hyn gan ein bod yn ariannu costau go iawn ac o ddiffiniad mae gan amser gwirfoddolwyr gost sero. (gall treuliau gwirfoddolwyr fod yn ddilys). Costau cyn-cytundebol Mae unrhyw gostau a gwyd neu yr ymrwymir yn ffurfiol iddynt cyn i ni arwyddo eich cytundeb Cydcoed yn annilys. Log ar grantiau a delir ymlaen llaw Os telir grantiau ymlaen llaw maent yn denu llog tra y bydd yn eich cyfrif. Cewch gadw’r llog at ddibenion cyfreithlon yn unol â’ch rheolau ar yr amod i’r grant gael ei wario ar y prosiect fel ag a gytunwyd. Os byddwn yn mynnu i chi dalu unrhyw grant yn ôl i ni gan i chi fethu gwneud cynnydd materol neu ariannol, rhaid i chi hefyd dalu yn ôl unrhyw log a enillwyd ar y rhan y byddwch yn ei thalu’n ôl. Os byddwch yn cwblhau’r prosiect yn unol â’ch cytundeb ond heb wario’ch holl grant byddwn yn mynnu i chi dalu yn ôl i ni unrhyw grant heb ei wario. Mewn achos felly, cewch gadw unrhyw log a enillwyd. Rhaid bod y cyfrif y byddwch yn talu’r grant i mewn iddo yn gyfrif mynediad unionsyth a ni all ymwneud ag unrhyw weithgareddau anturiol neu a yrrir gan elw, e.e. buddsoddiadau’r farchnad stoc. Cliciwch yma i weld sampl o ffurflen hawliad.
|