Telerau ac amodau
Dyma'r telerau a’r amodau y byddwn yn gofyn i chi eu harwyddo os byddwn yn cynnig cyllid i chi. TELERAU 1.Rhannau'r contract Mae pedair rhan i'r contract hwn. Dengys y rhan gyntaf y partïon i’r contract. Yr ail ran yw amodau'r contract, a elwir yn amodau ym mhob rhan o'r contract hwn. Mae’r drydedd ran yn disgrifio’r prosiect y mae Cydcoed yn ei ariannu ac fe’i gelwir yn gais ym mhob rhan o’r contract hwn.Y bedwaredd ran yw’r map sy’n dangos y darnau o dir y byddwch yn gwneud gwaith corfforol arno fel rhan o brosiect Cydcoed (a elwir yn safle ym mhob rhan o'r contract hwn).
2.Partïon i'r contract Gwneir y contract hwn rhwng Y Comisiwn Coedwigaeth (a elwir yn ni ym mhob rhan o’r contract) a’r grwp cymunedol sy’n gwneud y cais a restrir yn rhan gyntaf y contract (a elwir yn chwi ym mhob rhan o’r contract). 3.Y gwaith i'w gwneud Rhaid i chi gyflawni'r gwaith a wneir gennych ('y gwaith' ym mhob rhan o'r cytundeb) yn y ffordd a ddisgrifir ac erbyn y dyddiadau a ddangosir yn y cais. 4.Hawlio grantiau Chi sydd yn gyfrifol am hawlio'r grantiau fel ag a gytunwyd yn y cais. Rhaid i chi ddefnyddio'r dull a ddisgrifir yn adran Sut i Hawlio Grantiau o ganllawiau Cydcoed. 5.Talu grantiau Yn amodol ar y telerau byddwn yn talu grantiau i chi fel ag a ddisgrifir yn y cais a'r rhaglen gwaith ar yr amod i'r gwaith gael ei gyflawni i'n bodlondeb rhesymol. 6.Cyhoeddusrwydd Rhaid i chi gydymffurfio â'r gofyniadau cyhoeddusrwydd fel ag a nodir yn adran Cyhoeddusrwydd Canllawiau Cydcoed. AMODAU 1.Cyfyngiadau ar y tir Rhaid i chi ddweud wrthym os oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol neu fel arall yn effeithio ar y tir, a all atal y gwaith rhag cael ei gwblhau. 2.Cyllid o ffynonellau eraill Rhaid i chi ddweud wrthym os yw unrhyw gorff arall wedi cytuno i ariannu'r gwaith neu os ydych yn bwriadu wneud cais am unrhyw gyllid arall am y gwaith.
3.Safonau Gwaith Rhaid bod y gwaith a wneir gennych yn cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU. Rhaid i chi gwrdd â'r safon diogelwch amgylcheddol a'r dulliau a nodir yng nghanllawiaeth gyhoeddiedig y Comisiwn Coedwigaeth mewn grym ar ddyddiad y gymeradwyaeth. Rhaid i chi gyflawni unrhyw waith gyda'r gofal, medr a diwydrwydd dilys. 4.Glynu at yr amodau Oni gytunwyd fel arall yn ysgrifenedig gennym, rhaid i chi lynu at amodau'r cytundeb hwn am 10 mlynedd ar ol dyddiad y cytundeb hwn. 5.Safleoedd Archeolegol Ni chaiff y gwaith a wneir gennych ymyrryd â safle o bwysigrwydd archeolegol. Cyn i chi wneud unrhyw waith sydd yn effeithio ar heneb rhestredig rhaid i chi gael y caniatâd y mae ei angen arnoch am y gwaith hwnnw.
6.Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a safleoedd o ddiddordeb cadwraeth natur â diogelwch stadudol Cyn i chi wneud unrhyw waith ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a safleoedd o ddiddordeb Cadwraeth natur â diogelwch stadudol rhaid i chi gael unrhyw ganiatâd y mae ei angen ymlaen llaw. 7.Caniatâd statudol arall1 Mae’n rhaid cael caniatad cyn gwneud unrhyw waith sydd angen caniatad statudol. 8.Mynediad gan y cyhoedd Rhaid i chi ddiogelu pob hawl tramwy dros y tir. 9.Torri coed Ni roddir caniatâd am dorri coed yn y cytundeb hwn a rhaid i chi wneud cais am Drwydded Torri Coed gan y Comisiwn Coedwigaeth a bod mewn meddiant ohonno cyn torri unrhyw goed. 10.Newidiadau i'r cytundeb2 Ni ellir newid unrhyw argymhellion a gymeradwywyd yn y cytundeb hwn oni bai i ni gytuno ar y newidadau yn ysgrifenedig. 11.Monitro 3
Rhaid i chi ganiatau i ni, ein swyddogion a'n hasiantau ddod ar y safle ar bob adeg resymol yn ystod y cyfnod a nodir yn amod 4, i wneud yn siwr eich bod yn cadw at y contract.12.Atal taliadau'r grant Gallwn atal taliad grant os na fydd y prosiect yn symud yn ei flaen i'n boddhad rhesymol. 13.Cyllid nas gwariwyd Rhaid i chi ein hysbysu ar unwaith os byddwch yn sylweddoli na fyddwch yn gwario'r holl swm y gwnaed cais amdano fel y gallwn ddargyfeirio'r arian sydd heb ei wario i ddarpar geisiadau eraill. Byddwn yn gwneud hyn trwy gyfrwng cytundeb adolygedig. O fewn tri mis o dderbyn unrhyw grant a delir cyn gwariant, rhaid i chi wneud y gwaith a rhoi prawf i ni eich bod chi wedi gwario’r grant ar y prosiect. Mae’n bosibl y byddwn yn mynnu i chi dalu yn ôl i ni unrhyw grant na allwch brofi iddo gael ei wario o fewn tri mis. 14.Torri'r cytundeb Gallwn dorri'r cytundeb hwn ar unwaith os: - byddwn yn penderfynu na fydd y prosiect wedi'i cwblhau erbyn 30 Medi 2008;
- na fyddwch yn gwneud y gwaith i'n boddhad rhesymol;
- na fyddwch yn cyrraedd yr amcanion a ddisgrifir yn y cais i'n boddhad rhesymol;
- na fyddwch yn glynu at unrhyw amod o'r cytundeb;
- bydd unrhyw wybodaeth faterol a rhoddwyd i ni gennych chi wrth wneud y cytundeb hwn yn ffug, camarweiniol, neu yn anghyflawn;cewch eich datgan yn fethdalwr neu os byddwch yn gwneud cytundeb neu drefniant gyda'ch credydwyr neu yn caniatáu dogfen ymddiriedaeth neu yn mynd i ymddatodiad (ar wahân i ymddatodiad gwirfoddol aelod).
15.Effeithiau torri'r cytundeb Os terfynir y cytundeb hwn o dan amod 13 uchod ni fyddwn yn talu rhagor o o dan y cytundeb hwn. Os terfynir y cytundeb hwn am y rheswm cyntaf a restrir yn amod 13 uchod a chithau wedi cwblhau rhai o'r amcanion a restrir yn y cais ni fydd rhaid i chi dalu'r rhan o'r grant a wariwyd gennych ar yr amodau hynny ar yr amod y byddwch wedi cwrdd â phob amod arall. Bydd rhaid i chi ad-dalu'r rhan o'r grant sydd heb ei wario. Os terfynir y cytundeb am unrhyw reswm arall, bydd rhaid i chi ad-dalu unrhyw grant a gafwyd gennych ynghŷd â llog ar y gyfradd a osodir o bryd i'w gilydd gan Drysorlys Ei Mawrhydi. Codir y llog o'r dyddiad y talwyd y grant tan y dyddiad y byddwch yn ei ad-dalu. Cyn terfynu'r cytundeb neu ofyn i chi ad-dalu grant, byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi o'ch methiant a chyfle i unioni'r sefyllfa, os oes modd gwneud hynny'n rhesymol, o fewn yr amser y byddwn yn ei rhagnodi. 16.Anghydfod Os byddwch chi neu os byddwn ni yn anghytuno ar os ydych wedi cyflawni cais ai peidio neu ynglŷn â safon neu faint y gwaith a wnaed, gall y naill neu'r llall ofyn am i'r mater gael ei benderfynu gan gymrodeddwr a benodir yn unol â Deddf Cyflafareddiad 1995 neu unrhyw ail-ddeddfwriaeth neu addasiad statudol o'r Ddeddf honno. 17.Rhybuddion Rhaid i chi roi unrhyw rybuddion y mae angen i chi eu rhoi o dan y cytundeb hwn yn ysgrifenedig a chael eu cyflwyno i ni neu eu postio atom ni yng nghyfeiriad swyddfa eich Swyddog Prosiect Cydcoed neu ein Prif Swyddfa. Os bydd rhaid i ni roi rhybudd i chi, rhaid i ni ei anfon yn ysgrifenedig atoch, oni bai i ni gytuno fel arall, yn eich cyfeiriad fel ag a nodir yn y cytundeb hwn. 18.Awdurdodaeth Gyfraith Bydd y cytundeb hwn yn dod o dan Gyfraith Cymru a Lloegr ac o dan awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr. 19.Gwybodaeth agored Rydym yn cadw'r hawl i ddosbarthu copïau o'r contract hwn fel sy'n rhaid yn rhesymol. Os gwnawn ni hyn byddwn yn tynnu enwau a manylion cysylltu unrhyw unigolion preifat ac unrhyw wybodaeth sy'n fasnachol sensitif. Byddwn yn eich hysbysu o'r hyn a wnaethom hefyd. 20.Archwiliad ariannol Rhaid i chi roi i ni, ein swyddogion, ac asiantau awdurdodedig Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a’u hasiantau awdurdodedig, fynediad rhesymol i gyfrifon, dogfennau ariannol gwreiddiol a dogfennau gwreiddiol eraill yn ymwneud a chyflawniad y prosiect at ddibenion archwiliad ariannol a thechnegol unrhyw amser rhesymol yn ystod y cyfnod a nodir yn amod 4 ac am gyfnod o 3 blynedd yn dilyn y taliad olaf gan y Comisiwn Ewropeaidd ar y rhaglen Amcan Un os bydd hwn yn hwy na'r cyfnod a nodir yn amod 4.5 21.Amodau Arbennig4
Nodiadau 1 Megis caniatâd cynllunio neu tirddraeniad 2Nid yw oediadau y tu hwnt i 30 Medi 2008 yn bosibl fel arfer.Fel arfer cymeradwyir amrywiadau o fewn y gyllideb (rhwng eitemau gwaith) ond mae'n eithriadol i gytuno i gynyddu cyfanswm y gyllideb neu i leihau'r amcanion. 3Bydd eich Swyddog Prosiect yn monitro cynnydd eich prosiect fel ag a nodir yn yr atodiad monitro yn y rhaglen waith ond mae'n bosibl y bydd yn mynnu mynediad i'r tir ar adegau eraill o fewn rheswm. Archwilir Cydcoed er mwyn sicrhau bod y cyllid wedi'i gwario'n iawn. 4Mae'n bosibl y byddwn yn cynnig cytundeb Cydcoed sydd yn cynnwys amodau penodol, e.e. .cynllun busnes boddhaol, ymatebion boddhaol o'r Gofrestr Gyhoeddus. 5 Bydd hwn hyd at ddiwedd Rhagfyr 2012 o leiaf.
|