Ffurfio grwp cymunedol
Pwrpas Cydcoed ydi rhoi grantiau’n uniongyrchol i gymunedau, ar lefel leol. Felly byddwn ond yn rhoi grantiau i grwpiau cymunedol. Ni allwn roi arian i awdurdodau unedol, asiantaethau’r llywodraeth, cyrff ledled Gymru nad ydynt yn rhan o’r llywodraeth, cyrff sy’n gwneud elw neu unigolion. Bydd angen i ni fod yn ffyddiog y bydd yr arian y byddwn ni’n ei roi yn cael ei ddefnyddio ar gyfer prosiectau Cydcoed. Dyma ein rheswm dros ofyn bod gan bob grwp cymunedol sy’n derbyn arian gan Gydcoed strwythur ffurfiol ac amcanion penodol. Rhaid, o leiaf, bod gan y grwp gyfansoddiad ffurfiol. Mewn rhai achosion, byddwn yn gofyn i’r grwp gael ei ymgorffori. Cymerwch olwg ar A, B neu C i weld ydi’ch grwp chi’n barod eto ar gyfer un o’n grantiau ni. Dewis A Oes yna grwp cymunedol cyfansoddiadol ffurfiol mewn bod a fyddai’n gallu derbyn yr arian? Os oes, fe ddylai’r grwp hwnnw wneud cais am grant Cydcoed. Os nad oes grwp ffurfiol yn bod, edrychwch ar B neu C. Gweithiwch gyda’ch swyddog prosiect i weld ai dim ond cyfansoddiad sydd ei angen arnoch chi (B), yntau a fydd angen i’ch grwp gael ei ymgorffori (C). Dewis B Os nad oes yna grwp addas yn bodoli a fyddai’n gallu derbyn yr arian, yna mae angen i chi ffurfio grwp cymunedol cyfansoddiadol (sydd weithiau’n cael ei alw’n gymdeithas anghorfforedig). Os oes grwp yn bodoli eisoes, gellwch roi cyfansoddiad ffurfiol iddo. Os nad oes grwp yn bodoli, bydd angen i chi ffurfio un. Mae’n rhaid i grwp cymunedol cyfansoddiadol fod â chyfansoddiad sydd yn nodi amcanion a strwythur y grwp. Ewch at grwpiau cymunedol cyfansoddiadol am gyngor ynghylch sut i fabwysiadu cyfansoddiad. Dewis C Efallai y bydd Cydcoed yn gofyn i chi ymgorffori’r grwp cymunedol. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i’r grwp cymunedol naill ai ddod yn Gwmni a Gyfyngir gan Warant neu’n Gwmni Elusenol wedi ei gofrestru gyda Thy’r Cwmniau, neu’n Gymdeithas Ddiwydannol a Darbodus wedi ei chofrestru gyda Chofrestrydd y Cymdeithasau Cyfeillgar. Ewch i ymgorffori am gyngor ynghylch ymgorffori eich grwp. Mae mabwysiadu cyfansoddiad ac ymgorffori yn faterion digon rhwydd. O’u gwneud fe welwch y bydd hi’n haws i’r grwp reoli gweithgareddau’r grwp ac i gael at grantiau.
|