|
Gweithgareddau cymwys
Nid oes rhestr gyflawn gan ein bod ni am fod mewn modd i ymateb i ddyheadau lleol. Ond dyma’r mathau o weithgareddau y byddwn yn eu rhagweld:
Gweithfeydd rheoli coetir a ddyluniwyd i wella gwerth ecolegol, cymdeithasol neu economaidd coetiroedd i gymunedau lleol, e.e. teneuo, trosi i goed llydanddail, coed copi, coetir yn gysylltiedig â chreu cynefinoedd. DS: rhaid bod hyn o fewn cyd-destun cyflwyno prosiect penodol,nid gwaith cynnal a chadw’n unig.
Gweithfeydd mynediad (gan gynnwys gwaith dehongli ac amwynder fel gosod cysgodfeydd a meinciau yn ogystal â chreu llwybrau) ar gyfer cerddwyr a defnyddwyr hamdden eraill y goedwig fel beicwyr a marchogwyr sydd yn cynnig buddion i gymunedau lleol, naill ai trwy well mynediad yn uniongyrchol ar gyfer ymwelwyr neu annog ymwelwyr o’r tu allan i’r gymuned a fydd yn rhoi buddion economaidd lleol. Gall y gweithfeydd mynediad fod o fewn coetiroedd neu’r tu allan iddynt ond dim ond lle y byddant yn gwella mynediad i goetiroedd. DS: Mae gweithfeydd sydd yn cwrdd ag ymrwymiadau statudol yn annilys.
Gweithfeydd a ddyluniwyd i wella mynediad diwylliannol ar gyfer y gymuned leol, e.e. sesiynau asesu cyfranogol i benderfynu ar gynlluniau ar gyfer coedydd lleol, gweithfeydd arluniol mewn coedydd lleol ac yn gysylltiedig â nhw, amgyffred a chyflwyno gwybodaeth am goedydd lleol o ddiddordeb i gymunedau lleol.
Prynu tir ar gyfer prosiectau Cydcoed o fewn rheolau’r Undeb Ewropeaidd. Plannu coed a sefydlu coetir cymunedol ar dir an-amaethyddol.
Hyfforddiant, ond dim ond pobl sydd yn gweithio ar y prosiect a dim ond lle y mae angen amdano er mwyn cyflwyno amcanion y prosiect, h.y. ni all hyfforddiant fod yn amcan ynddo’i hunan.
Creu cyfleusterau coedwig fel ysgolion coedwig ac adnoddau addysg eraill yn seiliedig ar goetir, meithrinfeydd coed, ac adnoddau hamdden ar sail goedwigol lle mae’r rhain yn gysylltiedig yn uniongyrchol â lleoliad coedwig daearyddol gyfyngedig.
Cefnogaeth i fusnesau pren a busnesau’n gysylltiedig â choetir lle bo’r busnesau hynny’n ymgymryd yn uniongyrchol â chyflwyno prosiect Cydcoed e.e. amser ymgynghoriad gyngor technegol, ymweliadau addysgol ar gyfer aelodau’r busnes.
Gweithfeydd ffin (gan gynnwys perthi) ar ffiniau coedydd neu o fewn coedydd lle y byddant yn cynnig gwelliannau amgylcheddol a /neu amwynderol o fudd i’r gymuned.
Gweinyddiaeth uniongyrchol prosiectau Cydcoed hyd at 10% o gyfanswm costau’r prosiect. Nid tâl safonol, rhaid eu bod yn gostau go iawn yn unig, e.e. amser staff cyflogedig, costau rheolaidd swyddfa yn ystod gweinyddiaeth y prosiect DS: rhaid bod pob prosiect yn cyfrannu tuag at ddatblygiad yr adnoddau coedwigol mewn ffordd sydd yn buddio cymunedau lleol ac sydd yn gysylltiedig yn uniongyrchol â lleoliad coedwig daearyddol gyfyngedig, e.e. prosiect sydd ond yn cynnal busnesau’n gysylltiedig â choetir a phrosiect sydd yn gwneud gwelliannau i goed heb fuddion lleol byddai ill dau’n annilys.
Ni allwn ariannu brynu offer symudol (oni bai y cytunwyd yn benodol o flaen llaw), costau gweithrediad, cynnal a chadw, yswiriant, paratoi cynigion neu unrhyw gost gafwyd cyn y cytunwyd yn ffurfiol gyda’r prosiect Cydcoed, taliadau costau diweddar, neu ffioedd cyfreithiol am cyfreithiad.
|

|
 |