Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  


Beth fydd cydcoed yn ariannu?
 

Pa fath o brosiectau y bydd Cydcoed yn eu hariannu?
Mae Cydcoed yn ymwneud â mwy na gwelliannau coetirol neu blannu coed ffurfiol yn unig.
Byddwn yn ystyried prosiectau sydd yn cyrraedd unrhyw un o’r amcanion cyhyd ag y byddant yn cwrdd â meini prawf y rhestr wirio.
MINERS BRIDGE OPENING 27/09/02

Pa fath o waith y bydd Cydcoed yn ei ariannu?
Bydd Cydcoed yn ariannu hyd at 100% o gostau gweithfeydd gan gynnwys costau llafur sydd yn cyfrannu’n uniongyrchol i amcanion y prosiect. Ni allwn gyllido costau rhedeg nac unrhyw gostau a gododd cyn cymeradwyaeth prosiect. Gweler y rhestr o weithgareddau cymwys am rhagor o fanylion.

Yr hyn na fydd Cydcoed yn ei ariannu
Ni fedrwn ariannu costau rhedeg neu unrhyw gostau sy’n codi cyn i’r prosiect gael ei gymeradwyo. Ni fedrwn ariannu pryniant offer symudol (os na chytunwyd yn benodol ymlaen llaw), costau cynnal neu yswiriant.

Nid ein hamcan yw ariannu hyfforddiant. Fodd bynnag, gallwn ariannu rhywfaint o hyfforddiant ar gyfer pobl sy’n gweithio ar brosiect ac na fedrent yn gorfforol orffen y gwaith heb gael hyfforddiant. Cliciwch yma i weld enghreifftiau.

I bwy y bydd Cydcoed yn rhoi arian?
Bydd Cydcoed ond yn rhoi grantiau i grwpiau cymunedol â chyfansoddiad iawn fel bod rheolaeth yr arian ar lefel leol. Gall unrhyw un roi prosiectau gerbron. I sicrhau fod eich grwp wedi ei gyfansoddi’n iawn neu i ddarganfod sut i ffurfio grwp cymunedol, cliciwch yma.

I weld y math o brosiectau sydd wedi cael eu hariannu gan Cydcoed, ewch at prosiectau ar y gweill.


Coetiroedd I Bawb logo


to DirectGov