Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Cymru fel lleoliad i ddiwydiannau coedwig o reng
 

Yn yr un modd â diwydiannau cynradd eraill megis amaethyddiaeth, mae coedwigaeth yn wynebu amgylchiadau masnachu anodd iawn gyda phrisiau isel am bren ar y farchnad fyd-eang. Ond mae busnesau trin pren yn parhau i fuddsoddi yng Nghymru a gallwn helpu cynyddu gwerth coedwigoedd Cymru fel ffynhonnell o bren ar gyfer prosesu, ar raddfa fechan yn ogystal ag ar raddfa fawr. Mae rhyw 4,200 o swyddi sydd yn creu £61 miliwn o incwm defnyddiadwy, yn dibynnu ar y diwydiant pren gartref (Astudiaeth Lluosogydd Coedwigaeth Cymru 1999). Mae llawer o’r swyddi hyn yn gysylltiedig â’r ardaloedd gwledig ac maent yn gyfranwyr sylweddol i economïau lleol.

Amcangyfrifodd yr un astudiaeth mai £400 miliwn y flwyddyn yw allgynnyrch gros diwydiant coedwigaeth Cymru. Mae’r allgynhyrchion hyn yn deillio o ystod gyfan y diwydiannau, o gwmnïau helaeth rhyngwladol sydd yn cynhyrchu pylp pren, papur a bwrdd panelu, i fusnesau teuluol bychain yn gwneud pyst a dodrefn i’r ardd. Trwy annog mentergarwch, cydweithrediad busnes a thrwy hyrwyddo dylunio da ar dros holl ystod y cynhyrchion byddwn yn helpu creu a chynnal swyddi trin pren medrus a mwyhau enw da Cymru am gynhyrchion o ansawdd uchel yn defnyddio pren caled a phren meddal o goetiroedd cynaliadwy. Creir swyddi hefyd mewn canlyniad i ddefnydd uwch o’n coetiroedd ar gyfer twristiaeth a hamdden.

Rhagwelir y bydd cyfanswm cynhyrchiant pren yng Nghymru yn cynyddu’n sylweddol erbyn diwedd y degawd nesaf wrth i goedwigoedd aeddfedu. Bydd llawer o’r cynydd hwn yn dod o goetiroedd coniffer a blannwyd gan y sector preifat yn ystod y 1960au, 70au ac 80au. Bydd mwyafu gwerth y coedwigoedd hyn i’r economi yn dibynnu i raddau helaeth ar ymdrechion proseswyr pren ac ar dechnegau blaengar am brosesu’r pren hwn. Yn y dyfodol bydd rhaid i ni ganolbwyntio ar wella ansawdd y pren a dyfir, trwy dalu sylw i ddewis rhywogaethau, teneuo a gweithgareddau rheoli eraill. Dim ond trwy gadw adnodd hyblyg y bydd tyfwyr Cymru yn gallu cystadlu yn y dyfodol.  Dyma’r amcanion allweddol :

  • Darparu cefnogaeth busnes effeithiol i ddiwydiannau coedwig Cymru.
  • Datblygu’r cadwyn cyflenwad pren, datblygiad a marchnata cynhyrchion.
  • Darparu cefnogaeth i goetiroedd fferm a’r economi gwledig ehangach; a hefyd
  • Meithrin datblygiad ynni adnewyddadwy ar sail pren.

Darparu cefnogaeth busnes effeithiol i ddiwydiannau coedwig Cymru

Yr allwedd i gyrraedd y nod hwn yw cyflawni’r Strategaeth Datblygiad Economaidd Cenedlaethol trwy Asiantaeth Datblygu Cymru (ADC/WDA) a phartneriaid eraill. Bydd mwyafu effaith cyllid strwythurol yr UE o dan Amcanion 1, 2 a 3 yn bwysig yn y cyfnod byr. Mae rhan i bob diwydiant coedwig ei chwarae wrth gyfrannu tuag at olud economaidd y wlad, o feithrinfeydd coedwig trwy reolaeth coetir i gynaeafu, cludo a phrosesu ar bob graddfa o fasnachwyr unigol i gwmnïau rhyngwladol. Mae angen gwahanol lefelau o gefnogaeth ar bob un o’r busnesau hyn er mwyn eu galluogi i gynllunio eu gweithgareddau a datblygu mewn ffordd gynaliadwy.

  • Byddwn yn ymdrechu i gynyddu hyfywedd cystadleuol ein diwydiannau coedwig, gan weithio mewn partneriaeth â’r diwydiant i ddatblygu a gweithredu cynlluniau gweithredu ar draws y sector diwydiannol.
  • Byddwn yn datblygu a hyrwyddo hygyrchedd systemau am gefnogaeth a hyfforddiant busnes.

 
Datblygu cadwyn y cyflenwad pren, datblygiad a marchnata cynhyrchion.

Ceir llawer o fanteision i economi Cymru trwy gyflogaeth uniongyrchol ac effeithiau lluosogol gwaith coetir. Un o’r ffactorau sydd yn cyfyngu ar ddatblygiad yw diffyg hyder yng nghadwyn y cyflenwad pren. Yn aml bydd llawer o wahanol fusnesau yn trin darn penodol o bren cyn iddo gael ei droi yn gynnyrch gorffenedig. Mae’r busnesau hynny sydd yn ffurfio’r ddolen gyntaf yn y gadwyn o dan pwysau ariannol difrifol oherwydd y cwymp mewn prisiau pren yn hwyr yn y 1990au. Y ffactor allweddol arall mewn llwyddiant busnes yw marchnata cynhyrchion. Rhaid i gynhyrchion pren gystadlu mewn marchnad ryngwladol ac mae nodweddion arbennig y cynnyrch neu’r gwasanaeth a gynigir gan bob busnes yn dyngedfennol am lwyddiant.

  • Byddwn yn parhau i gefnogi diwydiant trwy ddod â’r cyfeintiau rhagweledig o bren i’r farchnad o goetiroedd y Cynulliad Cenedlaethol, i helpu creu hyder ar gyfer datblygiad diwydiannol.
  • Byddwn yn defnyddio technegau marchnata am bren o goetiroedd y Cynulliad Cenedlaethol a fydd yn rhoi sicrwydd tymor hir i gwsmeriaid a chyflenwyr, fel y bydd modd iddynt fuddsoddi mewn technolegau a systemau diogel ac effeithlon.
  • Byddwn yn gweithio gyda chynrychiolwyr diwydiant i gynnal a datblygu busnesau yng nghadwyn y cyflenwad pren, gan helpu darparu gwybodaeth ar gyfaint ac ansawdd y pren sydd ar gael, ac annog prosesu pren o darddiad Cymreig yng Nghymru.
  • Byddwn yn helpu hyrwyddo’r defnydd o bren ac annog busnesau i ddatblygu gwerth ychwanegol lleol ac i farchnata eu cynhyrchion yn fwy effeithiol, gan ddefnyddio delwedd lân werdd Cymru i gyflwyno delwedd o gynaliadwyedd.

Darparu cefnogaeth i goetiroedd fferm a’r economi gwledig ehangach

Mae tua chwarter arwynebedd coetir Cymru ar ffermydd. Gan amlaf mae’r coetiroedd hyn yn rhai brodorol o faint bach, gyda mynediad gwael ac ansawdd gwael o bren, ond mae ganddynt werth amgylcheddol uchel.  Gall rheoli’r coetiroedd hyn yn ofalus fel adnodd fferm gyfrannu tuag at incwm y fferm ac arall gyfeirio mentrau amaethyddol yn ogystal â chynnig buddion ychwanegol i’r dirwedd ac i’r amgylchedd. Bydd gan goetiroedd fferm yn ogystal â choetiroedd bychain mewn perchnogaeth arall ran allweddol mewn datblygiad gwledig a bydd rhaid eu hintegreiddio gyda’r holl raglenni cymdeithasol ac economaidd amaethyddol a gwledig ar draws y Cynulliad. Mae cefnogi busnesau cynaliadwy mewn ardaloedd gwledig yn amcan pwysig ar gyfer y strategaeth hon.

  • Byddwn yn gweithio’n agos â’r sector ffermio, gan ddisgwyl i’r Fforwm Coetir sefydlu grwp testun coetir fferm, gan adeiladu ar yr arbenigedd a ddatblygwyd yng Nghymru yn hwyr yn yr 20fed Ganrif.
  • Byddwn yn annog ffermwyr i arall gyfeirio eu busnesau amaethyddol trwy Ddolen Ffermio, gan gynnig gwybodaeth ar reolaeth coetir, contractio a datblygu prosesu pren ar raddfa fechan.
  • Byddwn yn helpu ffermwyr wneud y defnydd gorau o adnoddau coetir fferm ar gyfer cysgod i dda byw ac ar gyfer cynhyrchion pren at ddefnydd ar ffermydd, integreiddio’r coetiroedd yn well yn y busnesau fferm ac yn y dirwedd.
  • Byddwn yn helpu Coed Cymru er mwyn parhau i gyflwyno cefnogaeth i ffermwyr, pleidio achos arferion gorau mewn rheolaeth coetir llydandail a defnyddio astudiaethau achos o ffermydd go iawn fel enghreifftiau i eraill.

Meithrin datblygiad ynni adnewyddadwy ar sail pren.

Mae datblygu sector ynni-adnewyddadwy gryf yng Nghymru’n darged allweddol i’r Cynulliad Cenedlaethol fel rhan o’n cyfrifoldeb i ymateb i newid hinsoddol y byd. Mae gan bren nifer o fanteision fel tanwydd, yn enwedig lle mae’r tanwydd pren hwnnw’n gynnyrch ychwanegol o reoli coetir. Credwn y gall datblygiad technolegau tanwydd pren wneud cyfraniad pwysig i gynhyrchiad ynni adnewyddadwy yng Nghymru. Gall datblygu adnoddau i losgi pren mewn lleoliadau addas lle mae galw parhaus am wres megis cyfleusterau cymunedol, ysbytai neu ddiwydiant ddarparu pwer a gwres cefndir. Bydd gweithfeydd gwres a phwer cyfun o’r math yn cyfrannu tuag at ein targed o fwyafu effeithioldeb ynni yng Nghymru.

  • Byddwn yn integreiddio ynni o danwydd pren yn strategaeth ynni adnewyddadwy’r Cynulliad Cenedlaethol, gan sicrhau iddo gael ei gydnabod fel tanwydd allweddol.
  • Byddwn yn gweithio gydag Awdurdod Datblygu Cymru a phartneriaid eraill i ddatblygu gwybodaeth a chyngor i’r Awdurdodau Cynllunio Lleol ar ynni adnewyddadwy ar sail pren.
 

Beth sydd o ddiddordeb
Mae’r dudalen yma yn ddyfyniad o Goetiroedd i Gymru, strategaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Coed a Choetiroedd.

I edrych ar pdf o’r ddogfen strategaeth llawn, cliciwch yma.


to DirectGov