Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  
  •  


Prosiect adfer y rugiar ddu yng nghymru
 

MALE BLACK GROUSE (Tetrao tetrix) AT LEK.Dirywiad y rugiar ddu
Mae niferoedd y rugiar ddu wedi gostwng yn sylweddol, yn enwedig yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Os yw hyn yn parhau, credir y bydd y rugiar ddu wedi mynd i ddifancoll o fewn 10 i 15 mlynedd.

Colli cynefin yw un o’r prif ffactorau
Mae’n well gan rugieir du yng Nghymru gynefinoedd ar gyrion coetiroedd, yn enwedig lle maent hwy’n cwrdd â gweundir grug. Mae lleoedd gwlyb yn bwysig hefyd, gan ddarparu bwyd ychwanegol i’r iâr cyn iddi ddodwy ac i’r cywion bach. Collwyd llawer o’r cynefinoedd hyn wrth i goedwigoedd aeddfedu, oherwydd rheolaeth wael ar weundiroedd, ac o ganlyniad i welliannau amaethyddol.

Prosiect Adfer y Rugiar Ddu yng Nghymru

Lansiwyd y prosiect ym 1997. Partneriaeth ydyw rhwng yr RSPB, y Comisiwn Coedwigaeth a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, gyda buddsoddiad sylweddol gan yr Undeb Ewropeaidd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.
Pwrpas y prosiect yw atal dirywiad y rugiar ddu yng Nghymru ac, yn y tymor hir, cynyddu ei thiriogaeth a’i niferoedd.
Nododd y prosiect fod 6 ardal allweddol, gan gynnwys Clocaenog, yn cynnal 80% o’r grugieir du a oedd ar ôl yng Nghymru ym 1997. Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar y mannau paru presennol - ar greu a gwella’r cynefinoedd sydd eu hangen ar y rugiar ddu ar gyfer bwydo, dodwy wyau a magu cywion.

Llwyddiant y prosiect

Rhwng 1997 a 2002 gwelwyd cynnydd o 88% yn nifer y grugieir du yn yr ardaloedd allweddol hyn. Ond y tu allan iddynt, lle nad yw’r cynefin yn cael ei reoli’n effeithiol, mae’r dirywiad yn parhau. Awgryma hyn fod y gwelliannau a wnaed yn ystod cyfnod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus.

Grugieir Du yng Nghlocaenog
Crëwyd 160 hectar o gynefin addas i’r rugiar ddu, ar ffurf coridor yn rhedeg o du mewn i’r goedwig, drwy ymyl y goedwig ac i mewn i’r gweundir cyfagos. Dyma'r math o waith a wnaed.

  • Graddoli ymylon y goedwig ac ehangu rhodfeydd drwy dorri 90% o’r conwydd i wella cynefin y rugiar a sefydlogrwydd yr ymylon yn ystod tywydd gwyntog.
  • Cynnal ac estyn ardaloedd gwlyb i annog twf plu’r gweunydd a denu amrywiaeth o bryfed. Mae llecynnau gwlyb a thoreithiog yn fannau bwydo pwysig i’r iâr a’r cywion.
  • Torri conwydd aeddfed i adfer gweundir grug. Ailblannu rhai ardaloedd a gliriwyd â chymysgedd o binwydd yr Alban a choed llydanddail i ddarparu bwyd yn y gaeaf.
  • Torri grug aeddfed i gynhyrchu llystyfiant o oedran amrywiol ac i annog aildyfiant llus, grug, gweiriau a hesg.
  • Cadw llystyfiant yn isel ar hyd ymylon traciau i ddenu ceiliogod i baru.

Gofynion hanfodol y Rugiar Ddu

  • Bwyd â llawer o brotein i’r ieir cyn iddynt ddodwy yn y gwanwyn, e.e. blodau plu’r gweunydd.
  • Coetir gerllaw lle gall yr adar gysgodi, bwydo a chuddio rhag ysglyfaethwyr.
  • Digon o infertebratau i’r cywion sydd newydd ddeor.
  • Cyflenwad o gyffion grug a llus drwy gydol y flwyddyn yn fwyd i’r oedolion ac adar yn eu blwyddyn gyntaf.
  • Caiff poblogaethau eu monitro drwy wneud cyfrifon o adar yn paru yn y gwanwyn ac o nytheidiau yn hwyr yn yr haf i asesu effeithiolrwydd y gwaith rheoli. Hefyd caiff cywion eu radio-tagio i ddarganfod achosion marwolaeth.
  • Mae adar ac anifeiliaid eraill yn elwa ar y mosaig o gynefinoedd a grëir, yn enwedig y troellwr mawr prin.
 

Tudalennau cysylltiedig

Safleoedd defnyddiol


to DirectGov