Comisiwn Coedwigaeth

Mae corff newydd, Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cymryd drosodd y swyddogaethau a gyflawnwyd yn flaenorol gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru.
Bydd ychydig o wasanaethau ar-lein Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gael eu darparu ar y wefan hon am gyfnod cyfyngedig.

Diogelu’r wiwer goch yng nghoedwig Clocaenog

RED SQUIRRELRoedd y wiwer lwyd, sciurus carolinensis, wedi dod yn gyffredin yng Nghymru erbyn dechrau’r 1960au, ac roedd wedi disodli’r wiwer goch, sciurus vulgaris, o lawer o’i hen diriogaeth.

Erbyn heddiw mae’r wiwer goch wedi’i chyfyngu i ychydig o blanhigfeydd conwydd yng ngogledd a de Cymru. Credir bod y boblogaeth fwyaf o wiwerod coch yng Nghymru i’w chael yng Nghoedwig Clocaenog ac mai hon yw eu cadarnle olaf.

Serch hynny, mae gan y blanhigfa gonwydd hon o 5,000 hectar boblogaeth breswyl o wiwerod llwyd hefyd (<100).

Oherwydd pryder am ddirywiad y boblogaeth o wiwerod coch drwy’r DU, sefydlwyd prosiect ym mis Tachwedd 1992 i geisio darganfod faint o wiwerod coch sy’n byw yng Nghoedwig Clocaenog a beth yw effaith y gwiwerod llwyd ar y boblogaeth hon.

Un ddamcaniaeth, mewn perthynas ag a fydd y llwyd yn disodli’r goch, yw bod gwiwerod coch wedi ymaddasu’n well i fyw mewn coedwigoedd conwydd mawr na gwiwerod llwyd - yn enwedig os nad oes unrhyw goed llydanddail yno. Pe bai’r ymchwil yng Nghoedwig Clocaenog yn cadarnhau’r ddamcaniaeth hon, byddai ganddi oblygiadau pwysig ar gyfer rheoli coedwigoedd er lles y wiwer goch. Felly dros gyfnod o 6 blynedd buwyd yn dal gwiwerod coch a llwyd a’u radio-tracio.

Rhoddodd hyn amcan o ddwysedd y gwiwerod mewn ardaloedd penodol a’r cynefin a oedd orau gan y ddwy rywogaeth. Mae’r ddwy rywogaeth yn dibynnu’n fawr ar yr hadau yn y conau a gynhyrchir gan gonwydd ac felly defnyddiwyd trawsluniau côn a ffotograffau o’r canopi i ddarganfod faint o fwyd a oedd ar gael yn y goedwig, a defnyddiwyd y wybodaeth hon i ategu’r data ynghylch pa gynefin sydd orau gan y gwiwerod a oedd wedi cael ei gasglu drwy radio-tracio.

Dewiswyd dau safle ar gyfer astudiaethau manwl a oedd yn wahanol o ran y cyfansoddiad o rywogaethau o goed (yn enwedig presenoldeb coed llydanddail), lleoliad o fewn y goedwig, a phresenoldeb gwiwerod llwyd ar y dechrau.

Darganfuwyd bod y boblogaeth o wiwerod coch yn amrywio yn ôl faint o hadau coniffer a oedd ar gael, ond roedd yn weddol sefydlog yn ystod cyfnod yr astudiaeth. Roedd y dwysedd o wiwerod coch yn isel, oddeutu un wiwer am bob tri i bedwar hectar ar gyfartaledd, ac yn debyg i’r dwysedd a oedd wedi cael ei ddarganfod mewn astudiaethau o goedwigoedd conwydd eraill.

Roedd gwiwerod llwyd yn byw mewn rhannau o’r goedwig lle mae coed llydanddail yn tyfu ond nid oeddynt yn byw’n barhaol mewn ardaloedd lle ceir conwydd yn unig (sbriws Sitka a Norwy) - byddent i’w gweld yn ystod blynyddoedd o ddigonedd yn unig. Mae hyn yn ategu’r ddamcaniaeth bod gwiwerod coch yn gallu goroesi’n well mewn coedwigoedd conwydd (a bwrw bod y rhywogaethau cywir o goeden yno i ddarparu bwyd). Nid oedd presenoldeb gwiwerod llwyd yn effeithio’n uniongyrchol ar wiwerod coch, ond ymddengys fod llwyddiant bridio gwiwerod coch a goroesiad gwiwerod coch ifanc yn lleihau mewn ardaloedd lle mae gwiwerod llwyd hefyd yn bridio.

RED SQUIRREL.Darganfuwyd bod y ddwy rywogaeth yn hoffi’r un mathau o fwyd, gan ffafrio hadau pinwydd yr Alban a sbriws Norwy, a llarwydd Japan pan ydynt ar gael. Nid oedd y naill rywogaeth na’r llall yn hoff iawn o hadau sbriws Sitka, er ei bod hi’n ymddangos bod y wiwer lwyd yn fwy parod i fwyta’r hadau hyn na’r wiwer goch. Ffawydd yw’r prif rywogaeth lydanddail yng Nghlocaenog, ond dim ond mewn ychydig o ardaloedd bach. Cynhyrchodd y ffawydd gnwd o ffrwyth unwaith yn ystod yr astudiaeth a gwelwyd bod y wiwer lwyd yn gwneud defnydd helaeth o’r bwyd hwn. Gwelwyd y goch yn bwydo ar ffrwyth y ffawydd hefyd, ond nid i’r un graddau â’r llwyd.

Darganfuwyd bod gwiwerod coch yn ymaddasu i waith coedwigo megis teneuo drwy symud eu cartrefi i rannau addas o’r goedwig gerllaw. Byddent yn dychwelyd i’w tiriogaeth wreiddiol ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau os oedd y cynefin yn dal yn addas (e.e. heb ei deneuo’n ormodol).

Mae dyfodol gwiwerod coch Coedwig Clocaenog yn dal yn y fantol. Coedwig fasnachol yw hon a rhaid i gnydau coed gael eu rheoli. Cynhyrchwyd cyfres o ganllawiau rheoli ar sail canlyniadau’r prosiect ac fe’u rhoddwyd ar waith gan y Comisiwn Coedwigaeth.

Mae ymchwil i’r boblogaeth o wiwerod coch yn parhau, ac mae arolwg yn cael ei wneud o’r ardal i’r gorllewin o Lyn Brenig i ddarganfod hyd a lled y boblogaeth o wiwerod coch ac i wneud cymhariaeth enetig rhwng y boblogaeth hon a’r boblogaeth ym mhrif ran y goedwig. Hefyd cedwir llygad ar y boblogaeth o wiwerod llwyd i sicrhau nad yw’n cynyddu ar draul y wiwer goch.

Dr Sarah Cartmel

Mae'r cyhoeddiadau Saesneg yma ar gael ar-lein:
Red Squirrel Conservation
Practice Note 005 - Sep 1998
Practical Techniques for Surveying and Monitoring Squirrels
Practice Note 011 - Sep 2001

 

Safleoedd defnyddiol