Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n gweithredu fel Adran Goedwigaeth Llywodraeth Cymru (LLC). Rydym yn atebol am reoli 38% o’r coetiroedd ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cynghori ar ddatblygiad y polisi coedwigaeth a’i weithrediad, ar ei ran. Y tu allan i’r coetiroedd sydd ym mherchnogaeth y Cynulliad, anogwn reolaeth coetir gynaliadwy trwy gymhellion grantiau a rheoleiddio gan gynnwys rhoi trwyddedi ar gyfer cwympo ac ailblannu. John Griffiths yw Gweinidog Llywodraeth Cymru gyda chyfrifoldeb dros goedwigaeth.
Ein pwrpas a'n cyfeiriad Cynllun Corfforaethol Comisiwn Coedwigaeth Cymru
Ein pwrpas a'n cyfeiriad yw ein cynllun corfforaethol. Mae'r Cynllun yn cael ei ddiweddaru yn flynyddol ac yn cyflwyno beth ydym am gyflawni dros gyfnod o dair blynedd, ar hyn o bryd 2011 - 2014. Er mwyn arolygu ein cynnydd mae gennym nifer o fesurau perfformiad sydd wedi cael eu cynnwys yn y Cynllun.
Ein pwrpas a'n cyfeiriad 2012-2015>> (Cynllun Corfforaethol)
Crynodeb Ein pwrpas a'n cyfeiriad 2012 - 2015>>
Ariannu
Yn ogystal i ariannu o Lywodraeth Cymru rydym yn creu incwm o goetiroedd y Cynulliad drwy gynaeafu coed a gweithgareddau eraill.
Gweithio gyda Llywodraeth Cymru
Cawn ein cyfarwyddo gan Weinidogion Cymru drwy ein Bwrdd Comisiynwyr a Phwyllgor Cenedlaethol Cymru.
Gweithiwn yn agos â Llywodraeth Cymru, ac Adran yr Amgylchedd a Cynaliadwyedd yn benodol i gyflawni 'Coetiroedd i Gymru', Strategaeth ar gyfer Coed a Choetiroedd Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r llu o bartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Ffurfiwyd y Panel Ymgynghorol ar y Strategaeth Coetiroedd yn 2005 i gynghori Pwyllgor Cenedlaethol Cymru ar ddatblygu polisïau coedwigaeth a monitro Strategaeth Coetiroedd Cymru.

