Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to Cymru homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion >  


Gweithio gyda cymunedau
 

Forestry Commission staff, members of the public and local residents at an onsite consultation meeting.Chwarae rhan yn eich coetiroedd lleol

Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn croesawu ac annog pob ffurf o ymglymiad a chyfranogiad cymunedol yng nghoetiroedd ym mherchnogaeth Cynulliad Cymru. Mae llawer o bobl yn cael llawer o foddhad o goetiroedd fel man i ymarfer ac ymlacio - ceir mynediad rhydd agored i feicio a cherdded yng nghoetiroedd a reolir gan CC Cymru. Yn ogystal mae gan lawer ohonynt fynediad agored ar gyfer marchogaeth.

Yn aml mae pobl am wneud llawer mwy yn eu coedwigoedd lleol ond ddim yn siŵr sut i fynd ati. Felly am y rheswm yma rydym wedi creu canllaw (pdf, 1534kb) ymarferol, ar gyfer ein staff a grwpiau cymunedol, sy’n egluro ein hymrwymiad i gymunedau lleol a sut fedrant fynd ati i drefnu eu prosiectau eu hunain yn y coetiroedd rydym yn eu rheoli.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gyda eich swyddfa Comisiwn Coedwigaeth lleol os gwelwch yn dda.


Ymgynghoriadau cyfredol

  • Ymgynghoriad Niwbwrch - nod yr ymgynghoriad hwn yw gwella dyluniad, rheolaeth a defnydd Ardal Coedwig a Thywyn Niwbwrch.

  • Tai Fforddiadwy - Yn gynnar yn 2006 fe ofynnodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru i Carwyn Jones, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad i ymchwilio fewn i botensial adeiladu tai fforddiadwy ar dir a rheolwyd gan CCC.

  • Gwarchod Coedwig - Cynllun a sefydlwyd yn Ne Cymru i annog aelodau’r cyhoedd i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw ddigwyddiadau troseddol a gweithgaredd amheus ar dir y CC yw Gwarchod Coedwig ( fersiwn coedwigol o Warchod y Gymdogaeth).



Cynlluniau Dyluniad Coedwig
Mae gan bob coedwig cyhoeddus yng Nghymru Cynllun Dyluniad Coedwig sy'n cael ei arolwg bob pum mlynedd. Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru yn ymgynghori yn lleol ar bob un o'r cynlluniau i rhoi cyfleoedd go iawn i godi cyfranogiad pobl a chymunedau yn rheolaeth gynaliadwy y coetiroedd sy'n agos ato nhw.





to DirectGov