Mae’r dyfrgi Ewropeaidd yn perthyn i’r un teulu â’r mochyn daear, y wenci, y carlwm, y bele a’r minc. Nodir yn Llyfr Coch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN) ei fod mewn perygl o fynd i ddifancoll. Ni wyddys faint o ddyfrgwn sydd ym Mhrydain, ond maent ar gynnydd mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys hafan dyfrgwn y Comisiwn Coedwigaeth yn Kylerhea ar yr Ynys Hir (Skye).
Enw
Dyfrgi (Lutra lutra)
Bywyd
Cynefin
Prif gynefin y dyfrgi yw glan y môr a glannau afonydd, llynnoedd a nentydd. Mae’n amddiffyn ei diriogaeth, ac mae’r diriogaeth hon yn ymestyn 1-3 km ar hyd glan y môr a 5-20 km ar hyd afonydd a llynnoedd dŵr croyw. Ni fydd y dyfrgi yn ymfudo - bydd yn aros yn ei diriogaeth drwy gydol y flwyddyn.
Bridio
Bydd y gwryw (y ci) a’r fenyw (yr ast) yn dechrau bridio pan fyddant yn 2 flwydd oed. Nid oes ‘tymor’ bridio fel y cyfryw, er bod tystiolaeth o rai ardaloedd eu bod yn tueddu i fridio yn y gwanwyn. Mae’n dibynnu i raddau helaeth ar y cynefin a’r cyflenwad bwyd. Yn y gwyllt, bydd 1 neu 2 o ddyfrgwn ym mhob ael.
Datblygiad
Yn y gwyllt, bydd 1 neu 2 o ddyfrgwn o bob ael yn goroesi ac yn tyfu’n oedolion. Bydd y gwryw a’r fenyw yn dod yn annibynnol pan fyddant yn 18 mis oed.
Ymborth
Prif ymborth y dyfrgi yw pysgod a chrancod, ond mae’n gigysydd a bydd yn bwyta unrhyw beth sy’n hawdd ei ddal, gan gynnwys adar, boed ar y dŵr neu’r lan, mamaliaid bach a physgod mwy megis y morgi.
Bygythiadau
Nid oes gan y dyfrgi unrhyw brif ysglyfaethwr. Mae ar ben y gadwyn fwyd, ac felly’n ysglyfaethwr ei hun, sy’n hela pysgod, mamaliaid bach ac adar. Dyn yw’r prif fygythiad iddo, drwy ddinistrio ei gynefin, oherwydd bod plaleiddiaid yn llifo oddi ar dir amaethyddol ac yn llygru cyrsiau dŵr, a chan ei fod yn gallu cael ei fwrw gan gerbydau tra’n croesi ffyrdd a llwybrau.
Adnabod
Mae’r dyfrgi tua’r un maint â chi bychan. Mae ei flew yn lliw brown ar y cyfan, ac mae ganddo fib brown goleuach. Mae ganddo glustiau a llygaid bach ac mae ei ben yn weddol fflat. Bydd yn carlamu dros y tir, gan ddal ei gynffon hir drwchus daprog oddi ar y ddaear. Mae’n nofio’n fflat ar wyneb y dŵr, a phan fydd yn plymio i’r dŵr bydd ei gynffon hir i’w gweld yn glir. Bydd yn gwneud sŵn uchel main wrth alw ar ddyfrgwn eraill, ac mae ganddo breblach mawr swnllyd wrth fygwth.
Sut y rheolwn ein coetiroedd
Rydym yn ceisio adfer cynefinoedd sy’n addas i’r dyfrgi drwy glirio llystyfiant trwchus sydd wedi gordyfu ar lannau afonydd a glan y môr. Mae rhaglenni bridio ar y gweill ym Mhrydain a fydd yn arwain yn y pen draw at ailgyflwyno cenawon y dyfrgi i gynefinoedd addas.

