|
|
Coedwig gwyllt coedydd ffynidwydd celyddon
Beth yw Coedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon? Mae Coedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon yn cynnwys Ffynidwydd yr Alban ac ystod o goed eraill, gan gynnwys meryw, bedw, helyg, cerddin ac, mewn rhai ardaloedd, aethnennau. Ceir rhai o’r coed hynaf yr yr Alban mewn coed ffynidwydd brodorol. Gelwir coed sydd yn hŷn na 200 mlynedd yn ‘neiniau’, ond maent yn ifanc mewn cymariaeth â choeden hynafol iawn mewn rhan anghysbell o Glen Loyne y profwyd ei bod yn fwy na 550 mlwydd oed.
Mae Coedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon yn fwy na choed yn unig. Maent yn gartref i ystod eang o rywogaethau a geir mewn cynefinoedd tebyg yn Llychlyn a rhannau eraill o Ogledd Ewrop a Rwsia.
Hefyd mae coed ffynidwydd brodorol wedi darparu ystod eang o gynhyrchion a ddefnyddiwyd mewn bywyd bob dydd yn yr Alban wledig. Defnyddiwyd pren i adeiladu tai; defnyddiwyd aeron, madarch ac anifeiliaid y coed fel bwyd; a thorrwyd canhwyllau-ffinwydd o galon hen goed i’w llosgi i roi golau. Yn fwy diweddar, cafwyd pren o’r coed ffynidwydd brodorol yn ystod y ddau Ryfeloedd Byd pan ymyrrwyd â mewnforion i Brydain.
Faint o Goedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon sydd ym Mhrydain? Ar ôl Oes yr Iâ ddiwethaf, gorchuddiwyd miloedd o gilomedrau sgwâr yn Ucheldiroedd yr Alban gan goed ffynidwydd brodorol. Heddiw, ceir Coedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon ar 84 o safleoedd yng ngogledd a gorllewin yr Alban, gan orchuddio tua 180 o gilometrau sgwâr.
Pa rywogaethau sydd yn byw yng Nghoedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon? Mae Coedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon yn cynnig cynefin am ystod eang o rywogaethau gogleddol arbenigol. Ymhlith y planhigion y ceir Llus, y Deircaill Ymgripiog, y Blodyn Deuben, y Coedwyrdd Unflodeuog a’r Coedwyrdd Danheddog. Ceir hefyd mwsogl arbenigol, fel mwsogl pluen yr estrys a grŵp prin o ffwng a elwir yn ffwng danheddog. Mae ystod eang o famaliaid yn cynnwys rhywogaethau allweddol fel y carw coch, arbenigwyr sydd yn bwydo ar ffynidwydd a phlanhigion y coed fel y wiwer goch, a rhywogaethau prinach fel y bele a’r gath wyllt. Ymhlith y rhywogaethau prin y mae paun y coed a’r titw cribog sydd ag ymlediad cyfyngedig yn seiliedig yng Nghoedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon. Ymhlith y Croesbigau y mae’r Groesbig Bigfawr a Chroesbig yr Alban a geir yng ngogledd a dwyrain yr Alban yn unig; maent yn fwydwyr arbenigol mewn coedwigoedd coniffer a brodorol. A cheir arbenigwyr eraill coed y ffynidwydd fel Gwalch y Pysgod a’r Hwyaden Lygad Aur lle y mae dŵr. Ceir y rhan fwyaf o greaduriaid di-asgwrn-cefn Prydain yng Nghoedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon. Maent yn amrywio o ficro-rhywogaethau sydd yn byw o dan y rhisgl i’r Chwilen Hirgron drawiadol sydd â chyrn dros 10 cm ar eu traws. Mae coetiroedd brodorol yn cynnal poblogaethau da o weision y neidr sydd yn brin ledled y wlad, hyd at 7 rhywogaeth o forgrug y coed, ac ystod o rywogaethau o bili-palod yn cynnwys y Brithribin Gwyrdd, Modrwyog yr Alban a nifer o rywogaethau o’r Frithog. Beth yw’r bygythiadau i Goedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon? Gwarchodir Coedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon yn dda bellach, ond erys bygythiadau gan dân a gor-bori. Sut y byddwn yn rheoli’n coetiroedd? Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn rheoli 24 o goedydd ffynidwydd brodorol. Mae gan bob un cynllun rheoli sydd â’i nod ar ehangu’r coetir brodorol. Mae hyn yn cynnwys gwaredu coed anfrodorol, annog atgynhyrchu trwy reoli anifeiliaid yn pori, ac mewn mannau plannu coed brodorol ifanc. Mewn rhai o’r Coedydd Ffynidwydd Brodorol Celyddon mwy o faint, mae llwybrau dehongli’n disgrifio hanes a bywyd gwyllt yr ardal.
Lle i weld coedydd ffynidwydd yng Nghymru
|

Oeddech chi'n gwybod Darganfuodd arolwg ddiweddar o goed ffynidwydd brodorol Celyddon yng Nghoedwig Abernethy, Swydd Inverness, rywogaeth o Wybedyn Hofran oedd yn newydd i wyddoniaeth.  <
Am fwy o wybodaeth
Safleoedd defnyddiol
|
 |