Ym Mhrydain mae’r brith perladeiniog yn Rhywogaeth Blaenoriaethol. Oherwydd newidiadau mewn dulliau rheoli coetiroedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r rhywogaeth hon, a oedd ar un adeg yn gyffredin iawn, bellach ar drai. Erbyn heddiw mae’n fwyaf cyffredin yn yr Alban a de Lloegr.
Enw
Brith perladeiniog (Boloria euphrosyne)
Bywyd
Cynefin
Mae’r brith perladeiniog yn byw mewn llennyrch mewn coetiroedd lle mae coed wedi cael eu torri neu eu coedlannu yn ddiweddar, a lle mae ardaloedd o laswellt, rhedyn a phrysgwydd agored. Maent hwy’n byw mewn poblogaethau bach, ond mae’r rhain wedi’u cysylltu â’i gilydd, a bydd y glöynnod yn aml yn hedfan rhwng gwahanol gymunedau sy’n rhannu cynefin addas. Maent hwy’n dibynnu ar fosaig o ardaloedd agored fel y gallant symud rhwng cymunedau a dod o hyd i fwyd.
Bridio
Dodwyir wyau unigol yn yr hydref ar redyn neu ddail marw ger mannau glaswelltog lle mae fioledau’n tyfu.
Datblygiad
Mae’r wyau’n datblygu dros y gaeaf ac mae’r lindys yn deor yn y gwanwyn. Bydd y glöynnod aeddfed yn hedfan o ddiwedd Ebrill hyd fis Gorffennaf.
Ymborth
Mae’r lindys a’r glöynnod yn bwydo ar y gwiolydd cyffredin ac weithiau ar fioled y cwn a fioled y gors.
Bygythiadau
Oherwydd newidiadau mewn dulliau rheoli coetiroedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r rhywogaeth wedi dirywio. Mae arferion megis coedlannu a theneuo ar drai a phlannwyd conwydd mewn llawer o ardaloedd. Mae rhodfeydd a llennyrch mewn coetiroedd wedi gordyfu ac wedi mynd yn rhy dywyll. Ni reolir cynefinoedd rhedyn drwy bori mwyach.
Adnabod
Gellir drysu rhwng y brith perladeiniog a’r brith perladeiniog bach. Gellir dweud y gwahaniaeth drwy chwilio am y ddau ‘berl’ arian o dan yr adain ôl.
Sut y rheolwn ein coetiroedd
Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweithio’n agos â Chadwraeth Glöynnod i sicrhau bod cynefinoedd agored mewn coetiroedd a choedwigoedd yn cael eu cynnal. Mae cynefinoedd addas yn cael eu creu drwy goedlannu a thrwy agor rhodfeydd coetirol.