|
|
Coedwig gwyllt barcud coch
Mae llawer o’r wybodaeth a geir yma yn seiliedig ar ddeunydd ac ymchwil a gasglwyd neu a gynhyrchwyd gan Peter Davis ac Ymddiriedolaeth Barcutiaid Cymru.
Enw Y barcud (Milvus milvus)
Bywyd Cynefin Mae’r barcud yn rhywogaeth eang ei chwmpas sy’n gallu dygymod ag amryw o gynefinoedd. Yr oll sydd ei angen arno yw coeden eithaf mawr, gyda llwybr clir ati, iddo allu gwneud ei nyth tua 10-15 metr uwchben y ddaear. Ambell waith, bydd y barcud yn defnyddio hen nyth brân neu foncath. Mae’r barcud yn aderyn mawr, ond nid yw’n aderyn cryf nac ymosodol. Bydd yn gwneud ei orau i warchod ei nyth, ond nid yr holl diriogaeth fridio. Mae’r rhan fwyaf o’r barcutiaid yng Nghymru yn nythu o fewn 20 km i’r fan y’u magwyd hwy.
Bridio Bydd y barcud yn bridio’n gyntaf yn 2 i 3 oed. Bydd barcutiaid yn paru am oes fel rheol er na fyddant yn cael dim i’w wneud â’i gilydd y tu allan i’r tymor bridio o fis Mawrth hyd fis Ebrill. Mae rhwng 1 a 4 wy wedi cael eu cofnodi mewn nythod yng Nghymru, gyda 2 i 3 wy yn y mwyafrif ohonynt.
Datblygiad Mae’r wyau’n deor 35 diwrnod ar ôl cael eu dodwy. Bydd y cywion yn aros yn eu nyth am oddeutu 8 wythnos a dibynnant ar eu rhieni am gyfnod gweddol fyr wedi hynny. Mae hyd at 75% o’r cywion yn goroesi’r flwyddyn gyntaf. Ymborth Carthysydd yw’r barcud yn y bôn, ond gall hefyd fod yn ysglyfaethwr, yn enwedig wrth fwydo’r cywion. Cipiant amrywiaeth eang o ysglyfaeth fyw, yn amrywio o bryfed genwair i adar a mamolion bach megis cwningod, llygod pengrwn a llygod y maes. Wrth hela, bydd yn gleidio’n isel gan chwilio am symudiadau bach ar y ddaear. Yna bydd yn plymio’n sydyn ac yn gafael yn yr ysglyfaeth â’i grafangau. Bygythiadau Yng Nghymru mae’n debyg mai gweilch Marthin (goshawks) yw unig ysglyfaethwr naturiol sydd gan farcutiaid aeddfed sy’n nythu. Daw’r prif fygythiad o weithgareddau dynol. Mae’r barcud yn darged i ladron wyau ac mae’r defnydd anghyfreithlon o abwyd wedi’i wenwyno, sydd heb gael ei osod yn benodol i ladd barcutiaid, yn parhau’n fygythiad mawr. Adnabod Lliw castan sydd gan y barcud, gyda chymysgedd cynnil o resi oren/llwydfelyn a brown tywyll neu ddu. Mae prif blu yr adenydd yn frown tywyll, sy’n cyferbynnu â’r darnau gwyn trawiadol o dan yr adenydd. Mae’r pen llwyd golau yn frith o ddu. Gellir gweld y coesau a thraed melyn llachar yn aml wrth i’r aderyn hedfan. Mae’r big fachog yn finiog iawn ac yn berffaith ar gyfer rhwygo cig yn ddarnau. Mae ei gri - mewian cyson â thraw uchel - yn sefyll allan; nid yw’n annhebyg i chwiban y bugail, felly mae o gryn gymorth i adnabod yr aderyn. Sut y rheolwn ein coetiroedd Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn gweithio gyda’i bartneriaid, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Barcutiaid Cymru a’r RSPB, i greu ardaloedd gwaharddedig o amgylch nythod sy’n cael eu defnyddio. Gellir gweld y barcud drwy ymweld â rhai o safleoedd y Comisiwn Coedwigaeth, megis Nant-yr-Arian.
Lle i weld barcudiaid yng Nghymru
|

Oeddech chi'n gwybod Ar un adeg roedd holl boblogaeth barcutiaid Cymru yn tarddu o un llinach fenywaidd.  Ystadegau bywyd Lled yr adenydd: tua 2 fetr Pwysau: 1 - 15 kg Hyd oes: 18 - 24 blynedd Niferoedd ym Mhrydain: tua 500 o barau bridio Am fwy o wybodaeth
Safleoedd defnyddiol
|
 |