Comisiwn Coedwigaeth Tudalen gartref > Dolenni cloi > Llyfrgell > Cymorth >
to prydain fawr homepage Amdanom ni > Manylion cysylltu > Newyddion > Chwilio >  
spacer2008 datganiad spacer
spacer2007 datganiad spacer
spacer2006 datganiad spacer
spacer2005 datganiad spacer

20 AWST 2002
DATGANIAD NEWYDDION: 5171

CORFF COEDWIGAETH GYMREIG NEWYDD I FWRW GWREIDDIAU


Cyhoeddodd Gweinidog Datblygiad Gwledig Michael German heddiw (Dydd Mawrth, 20 Awst) y bydd y Comisiwn Coedwigaeth yn creu corff rheolaeth goedwigaeth newydd wedi'i neilltuo i ofalu am goedwigoedd cyhoeddus Cymru.
Mae’r asiantaeth newydd yn un o’r elfennau mewn ail-wampiad o’r trefniadau gweinyddol am goedwigaeth ledled Prydain a gytunwyd gan Mr German a’i gyd-Weinidogion Coedwigaeth yn dilyn argymhellion Arolwg Datganoli Coedwigaeth - arolwg rhyng-adrannol helaeth o’r trefniadau gweinyddol am ddatblygu polisļau coedwigaeth cynaliadwy yn dilyn datganoli.

Ymunodd Allan Wilson, Dirprwy Weinidog yr Alban dros yr Amgylchedd a Datblygiad Gwledig ac Elliot Morley, Gweinidog Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ag ef i fynegi eu cefnogaeth gyflawn am gyflawni polisi yn y maes hwn gan y Comisiwn Coedwigaeth. Derbyniwyd ganddynt bod angen diweddaru’r trefniadau presennol, ond cytunwyd y dylid cyflawni hyn trwy weithgaredd gweinyddol yn hytrach na ddeddfwriaeth.

Ychwanegodd Mr German:


    "Mae’r newidiadau hyn yn dangos datganoli’n gweithio’n ymarferol. Am y tro cyntaf erioed mae gan Gymru ei choedwigoedd cyhoeddus ei hunan ac mae ganddi hefyd dīm o arbenigwyr sydd ā rhwymedigaeth i sicrhau i’r coedwigoedd hynny gael eu rheoli’n dda er mwyn cwrdd ag anghenion pobl Cymru.

    "Bydd yr asiantaeth newydd ynghyd ag integreiddiad cyflawn o goedwigaeth yn ein polisļau ehangach, yn newyddion da, nid yn unig i goedwigaeth ond i’r Gymru wledig i gyd.”


Nod y newidiadau yw cael mwy o integreiddiad o goedwigaeth ā gwaith arall polisi gwledig yng Nghymru, Lloegr a’r Alban tra’n cadw cyfleoedd dymunadwy am agwedd gydweithredol tuag at destunau cyffredin.

Mae’r trefniadau newydd yn cynnwys:

  • Integreiddiad mwy o lawer o ddatblygiad a chyflawniad polisi rhwng Swyddfa Genedlaethol y Comisiwn Coedwigaeth yng Nghymru ac Adran Materion Gwledig Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd cytundeb a lunir rhwng y naill a’r llall yn sail i hyn oll.
  • Datganoli asiantaeth y Comisiwn Coedwigaeth, Menter Coedwigaeth, yn dri chorff, gyda’r gorchwyl o reoli’r coedwigoedd cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar wahān.
  • Rhan helaethach i Lywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth benderfynu ar flaenoriaethau ymchwil, gyda chymeradwyaeth ar y cyd gan Weinidogion coedwigaeth am y strategaeth ymchwil a’r rhaglen flynyddol o ymchwil.
  • Mwy o gynrychiolaeth o Gymru ar Fwrdd y Comisiynwyr Coedwigaeth.
  • Pwyllgor gweinidogol newydd yn cynnwys Gweinidogion o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i drafod testunau rhyngwladol ac unrhyw destunau trawsdoriadol lle y byddai cydweithredu’n fuddiol ac i fonitro effeithiolrwydd y trefniadau newydd hyn.

Ychwanegodd yr Arglwydd Clark o Windermere, Cadeirydd y Comisiwn Coedwigaeth:

    "Rydym yn falch o ganlyniad yr arolwg ac edrychwn ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y trefniadau newydd. Mae gan goedwigaeth lawer i’w cyfrannu i economi Cymru ac mae’n rhan bwysig o’i thirwedd a’i diwylliant. Bydd y newidadau a gyhoeddwyd gan y Gweinidogion yn caniatįu iddi chwarae ei rhan gyflawn.”

Disgwylir y bydd y trefniadau newydd, gan gynnwys yr asiantaethau rheoli newydd, wedi eu sefydlu erbyn mis Ebrill 2003. Bydd hyn yn golygu adleoli nifer o swyddi i Gymru, er nad yw’r manylion llawn wedi eu gweithio allan hyd yn hyn.

Nodiadau i Olygyddion

1. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn rheoli dros 115,000 ha o goetiroedd yng Nghymru - tua 40 y cant o holl goetiroedd a choedwigoedd y wlad.

2. Mae testun llawn adroddiad y grwp arolygu “Arolwg Datganoli Coedwigaeth” a datganiadau cysylltiedig blaenorol ar gael i’w is-lwytho o wefan y Comisiwn: http://www.forestry.gov.uk/fdr.

3. Cynhaliwyd yr arolwg gan swyddogion Cynulliad Cenedlaethol Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Gweithredfa’r Alban, Swyddfa’r Cabinet a’r Trysorlys. Chwaraewyd rhan hefyd gan Adran Amaethyddiaeth a Datblygiad Gwledig Gogledd Iwerddon.

Clive Davies: 01970 625866

e-mail: clive.davies@forestry.gsi.gov.uk





to DirectGov